fel y nodasom, gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes, Ebrill 10fed, 1831. Claddwyd ef yn y gladdfa berthynol i'r capel. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. Thomas Rees, Llanfaple, wedi hyny o Gasgwent.
Yr oedd Mr. James yn ddyn cryf iawn o gorph a meddwl. Meddai lais grymus a soniarus iawn, gwroldeb diofn, ffraethineb dihysbydd, a pharodrwydd ymadrodd anghyffredin. Trwy fod ynddo gydgyfarfyddiad o'r pethau hyn, nis gallasai lai na bod yn bregethwr poblogaidd nodedig. Dichon fod ei wroldeb rai prydiau wedi ei arwain i drin ei wrthwynebwyr yn rhy arw—i'w cyffroi i ddigofaint yn hytrach na'u hargyhoeddi. Yr oedd cryn lawer o sarugrwydd yn ei dymer, fel y byddai ar ddynion annghyfarwydd ag ef dipyn o ofn myned i'w bresenoldeb. Yr oedd ynddo wrth—wynebiad mawr i bob rhodres a choegedd, a dywedai eiriau fel brath cleddyf wrth y rhai y tybiai ef eu bob yn gogwyddo at hyny. Unwaith galwodd myfyriwr o un o'r athrofäau arno yn ei dy, ac yr oedd y myfyriwr wedi cymeryd cryn drafferth, fel yr ymddengys, i drin ei wallt, gan ei godi i fynu yn syth ar ei dalcen, yr hyn yn marn Mr. James, oedd yn arwydd digamsynied o falchder. Eisteddai yr hen wr yn ei gadair freichiau, ac erbyn fod y myfyriwr i mewn yn yr ystafell, disgynodd llygaid Mr. James ar ei wallt, a'r gair cyntaf a ddywedodd cyn cyfarch gwell iddo oedd, "Y dyn, pam 'rych chi'n codi'ch gwrychyn arna i," nes yr oedd arswyd drwy holl esgyrn y myfyriwr druan. Ymddengys fod llawer o'r hen bregethwyr fel yn credu fod sarugrwydd a geirwirder yn hanfodol i wroldeb a gonestrwydd. Ond bu ei ysbryd diofn, a'i benderfyniad diysgog o wasanaeth dirfawr i'r Methodistiaid, yn y cyfnod, pan oedd pwnc yr urddiad yn ysgwyd yr holl gyfundrefn.
Mae yn ymddangos i'w ddylanwad a'i wroldeb ef wneyd cymaint, os nad mwy, na'r eiddo neb o'i gydoeswyr yn y De, tuag at ryddhau Methodistiaeth o lyffetheiriau yr Offeiriaid Methodistaidd a'r Eglwys wladol. Tra yr oedd rhan fwyaf o'r cynghorwyr a'r mân bregethwyr yn crynu ger bron yr offeiriaid fel caethion yn mhresenoldeb eu caethfeistri, byddai Mr. James yn sefyll ger eu bron yn ddiarswyd, ac yn gwrthwynebu eu cynlluniau rhagfarnllyd a threisiol gyda gwroldeb llew.[1]
DAVID LEWIS. Ganwyd Mr. Lewis mewn tŷ a elwir Pantyrathrobach, yn mhlwyf Llanstephan, sir Gaerfyrddin, Chwefror 26ain, 1790. Yr oedd ei rieni yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, ac yn arferion a defodau yr Eglwys hono yr addysgwyd yntau yn ei febyd. Wedi iddo ddyfod i oed—ran i farnu drosto ei hun, penderfynodd fwrw ei goelbren yn mysg yr Ymneillduwyr. Yn mis Mai, 1807, pan yn ddwy ar bymtheg oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Llanybri, gan Mr. David Davies. Yr Hydref canlynol dechreuodd bregethu. Yn uniongyrchol ar ol hyny aeth i ysgol a gedwid yn mhentref Llanybri, gan Mr. John Jeremy, wedi hyny o Lanbedr, a'r flwyddyn ganlynol aeth i'r ysgol Ramadegol a gynelid mewn cysylltiad â'r Coleg yn Nghaerfyrddin. Yn 1809, derbyniwyd ef i'r Coleg, lle yr oedd Mr. Davies, ei weinidog, yn un o'r athrawon. Ar ei ymadawiad o'r athrofa, urddwyd ef yn yr Aber, sir Frycheiniog. Bu yno yn barchus a llwyddianus iawn, ac yn cynyddu yn ei ddylanwad flwyddyn ar ol blwyddyn, o 1813 hyd ddiwedd 1831, pryd y symudodd i Abergavenny.
- ↑ Geiriadur Bywgraphyddol Jones, a Methodistiaeth Cymru.