Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn gynted ag yr ymsefydlodd yn Abergavenny, cyfododd i sylw a pharch cyffredinol, nid yn unig yn ei gynnulleidfa ei hun, ond trwy yr holl dref. Ychwanegwyd rhai ugeiniau yn fuan at yr eglwys, ac aeth y capel yn llawer rhy fychan i gynnwys y torfeydd a gyrchent i'w wrandaw. Yn y flwyddyn 1836 penderfynwyd adeiladu capel newydd, ond o herwydd ei fod ef wedi dechreu clafychu, gohiriwyd y peth nes gweled pa beth oedd ewyllys yr Arglwydd gyda golwg ar ei was. Waeth waeth yr aeth ef nes i'w fywyd defnyddiol gael ei ddwyn i derfyniad, Ebrill 25ain, 1837, yn nechreu yr wythfed flwyddyn a deugain o'i oed. Bu mewn poenau mawr rai misoedd cyn ei farw, ond pan gwynid ef gan ei gyfeillion o herwydd ei boen, ei ateb gwastadol ydoedd, "Yr wyf yn llaw Tad." Claddwyd ei gorph wrth y capel yn ymyl ei ragflaenafiaid Ebenezer Skeel a James James. Ymgynnullodd tua 25 o weinidogion, a thorf fawr o bobl i'w gladdedigaeth, a phregethwyd ei bregeth angladdol y Sul canlynol, gan Mr. D. Davies, Penywaun, oddiwrth Phil. i. 21, "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw,"—testyn a ddewiswyd gan yr ymadawedig yn ei gystudd.

O ran corph, yr oedd Mr. Lewis yn ddyn mawr iawn, ond nodedig o hardd a lluniaidd. Yr oedd ei feddwl hefyd yr un fath a'i gorph yn fawr iawn, ac yn gyfartal yn ei holl ranau. Yr oedd yn nodedig am ei ffraeth— ineb a'i hyawdledd, ac yn bregethwr poblogaidd yn holl ystyr yr ymadrodd. Yr oedd hefyd yn ddyn o dymer ryfeddol o fwyn a serchog, ac yn y nodwedd hyn, tra rhagorai ar ei ragflaenydd Mr. James, yr hwn oedd i raddau yn sarug ei dymer, hyd nes y buasid wedi ymgydnabyddu ag ef. Tra yr oedd mawredd Mr. Lewis yn gorphorol a meddyliol yn rhwymo pawb i edrych i fyny ato fel dyn mawr, yr oedd ei hynawsedd y fath, fel y tynai bob plentyn i nesu ato a'i anwylo. Gadawodd ar ei ol weddw a dwy ferch, ond gofalodd yr Arglwydd yn dirion am danynt yn ei ragluniaeth.

HENRY JOHN BUNN. Gan fod Mr. Bunn yn fyw, byddai ysgrifenu hanes ei fywyd yn anamserol. Ymfoddlonwn, gan hyny, ar grybwyll iddo gael ei addysgu yn athrofa Hoxton, ei urddo yn 1824, iddo fod ddeng mlynedd ar hugain yn weinidog yn Abergavenny, a'i fod yn bregethwr ac yn ysgrifenydd galluog. Hyderwn y caiff lawer o fwynhad o gysuron crefydd yn ei neillduedd a'i henaint.

E. H. SMITH. Efe yw y trydydd ar ddeg, os nad y pedwerydd ar ddeg, neu y pymthegfed gweinidog ar eglwys Annibynol Abergavenny. Disgyned deubarth ysbryd y goreu o'i flaenafiaid arno ef.

HEOL—Y—FELIN, CASNEWYDD.

Fel cangen o eglwys Llanfaches yr ystyrid yr eglwys hon o'r dechreuad hyd ddechreu y ganrif bresenol, ac nid fel eglwys wahanedig ac annibynol. Mae genym brofion fod addoliad yn cael ei gynal gan yr Annibynwyr yn y Casnewydd a'r gymydogaeth agos yn ddiatal er dyddiau Mr. Wroth. Bu Mr. William Erbery dros ryw gymaint o amser yn pregethu yn eglwys y Stow, cyn iddo sefydlu yn Nghaerdydd, ac y mae yn ddiamheuol fod llawer o'r dref a'r cylchoedd yn wrandawyr cyson ar Mr. Wroth a'i gynnorthwyr, yn Llanfaches. O 1646 hyd 1662 cafodd y trigolion eu bendithio â rhan fawr o weinidogaeth nerthol Walter Cradock, Henry Walter, ac