eraill. Yr oedd Mr. Walter yn weinidog plwyf y Stow, neu St. Woollos, yn 1660, pryd y cafodd ei droi allan. Yr oedd boneddwr parchus o'r enw Rees Williams yn byw yn y dref hon yn amser y werin-lywodraeth, yr hwn oedd yn Gristion enwog, ac yn bregethwr da. Yr oedd yn un o'r dirprwywyr yn neddf 1649, er taenu yr efengyl yn Nghymru. Mae Mr. Walter Cradock, mewn llythyr at Oliver Cromwell, dyddiedig Mawrth 29ain, 1652, yn ei alw, "yr hen Sant enwog, Mr. Rees Williams, o'r Casnewydd, yr hwn sydd wedi gwasanaethu y llywodraeth mewn amryw fanau, ond heb elwa yr un geiniog wrth hyny." Daliodd "yr hen Sant enwog" hwn at ei egwyddorion fel Ymneillduwr ac Annibynwr hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng 1669 a 1672. Yn 1669 yr oedd addoliad cyson yn cael ei gynal yn ei dŷ, ac yntau yn pregethu i'r rhai a ddelent yno i wrandaw. Yr oedd y gynnulleidfa a ymgyfarfyddai yno tua chant o rif, ac yn eu plith rai boneddigion.[1] Yn 1672, trwyddedwyd tŷ Barbara Williams, yn y Casnewydd, at gynal addoliad gan yr Annibynwyr. Mae yn ddigon tebygol fod Rees Williams erbyn hyn wedi marw, ac mai ei weddw ef oedd Barbara Williams. Mae yn debygol i'r addoliad gael ei gynal yn y tŷ hwn, neu yn rhywle arall yn y dref, hyd nes cael Deddf y Goddefiad yn 1688. Yr oedd tŷ Jane Reynolds hefyd yn mhlwyf Marshfield wedi cael ei drwyddedu yn 1672, a thŷ Margaret Jones yn mhlwyf Henllys. Felly gwelwn fod yr Annibynwyr yn lled luosog yn y dref a'r gymydogaeth yn yr amseroedd enbyd hyn. Byddai John Powell, A.M., Watkin Jones, Mynyddislwyn; Henry Walter, yr hwn oedd yn byw yn mhlwyf Caerlleon-ar-wysg, a Thomas Barnes, yn pregethu yn y gwahanol leoedd hyn, ac ymddengys mai dan weinidogaeth Mr. Barnes yn benaf y bu Ymneillduwyr y Casnewydd o 1688 hyd 1703, pryd y bu y gwr da farw mewn oedran teg. Nis gwyddom pa bryd yr adeiladwyd capel Heol-y-felin, na phwy fu yn gweinidogaethu yno o 1703 hyd 1710, pryd yr urddwyd Mr. David Williams. Amseriad y weithred henaf, sydd yn awr ar gael, yn perthyn i'r hen gapel, yw Ebrill 27ain, 1725; ond clywsom gan rai a'i gwelodd, fod hen weithred arall yn bod, sydd flynyddau lawer yn hynach na hon. Y tebygolrwydd yw, gan fod yr Ymneillduwyr mor lluosog a selog yn y parthau hyn tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, i dŷ cyfarfod gael ei adeiladu yn Heol-y-Felin cyn gynted ag y cafwyd nawdd Deddf y Goddefiad. Bu yr achos yma, mewn cysylltiad â Llanfaches, dan ofal gweinidogaethol Mr. David Williams o 1710 hyd 1754. Nid ydym yn feddianol ar ddefnyddiau i roddi unrhyw hanes am ei helynt yn nhymor maith ei weinidogaeth ef. Rhif y ddwy gynnulleidfa yn Carwhill a Heol-y-felin, yn 1717 oedd 236, yn cynnwys chwech o fonedd—igion, un ar bymtheg o dirfeddianwyr, wyth ar hugain o fasnachwyr, pedwar ar bymtheg o amaethwyr, ac ugain o weithwyr. Yr oedd yma un masnachwr cyfrifol yr amser hwnw, o'r enw Jacob Jones, yr hwn oedd yn wr blaenllaw a defnyddiol iawn gyda yr achos. Ar ol marwolaeth Mr. Williams, bu un Mr. Richard Davies yn weinidog yma am tua dwy flynedd, a dilynwyd ef gan Mr. James Davies, yr hwn a fu farw tua dechreu y flwyddyn 1760. Nid oes genym ddim ychwaneg o hanes am y naill na'r llall o honynt. Ar ol ysgrifenu hanes Llanfaches y tarawsom wrth eu henwau, ac o herwydd hyny ni chrybwyllwyd hwy yno. Yn Mehefin, 1760, derbyniodd Mr. Roger Rogers alwad yma, ac urddwyd ef Mai 28ain.
- ↑ Lambeth MSS.