Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1761. Ni pharhaodd tymor gweinidogaeth Mr. Rogers yma ond ychydig gyda phum' mlynedd o'r amser y derbyniodd yr alwad, ond bu yn rhyfeddol o lwyddianus. Derbyniodd lawer iawn o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith Thomas Morgan Harry, o Faesaleg, tad y diweddar Isaac Harries, o'r Morfa, yr hwn fu yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn eglwys Heol-y-felin am oddeutu triugain ac wyth o flynyddau. Bu farw mewn oedran teg Ebrill 17eg, 1829. Ar ol marwolaeth Mr. Rogers buwyd am tua phedair blynedd heb allu cael un cymwys i lenwi ei le. Yn niwedd y flwyddyn 1769, urddwyd Mr. Thomas Saunders, yr hwn a lafuriodd yma yn ffyddlon, ac yn anghyffredin o lwyddianus, am fwy nag ugain mlynedd. Mewn llythyr oddiwrth Mr. Edmund Jones at Mr. Howell Harries, Trefecca, dyddiedig Tachwedd 19eg, 1772, dywedir, "Y mae y tŷ cyfarfod yn y Casnewydd, er ei fod yn un mawr iawn, yn fynych yn rhy fychan i gyn—nwys y cynnulleidfaoedd. Mae Mr. Saunders, y gweinidog, yn llwyddo yn fawr yno, ac yn Carwhill a Machen." Bu Mr. Saunders am rai blynyddau yn nhymor ei weinidogaeth yn dal y swydd o oruchwyliwr tan-ddaearol (underground agent) yn ngweithiau haiarn Mr. Hanbury, o Bontypool. Yr oedd hyny i raddau mawr yn amddifadu yr eglwysi o'i wasanaeth, ac yn lleihau ei ddefnyddioldeb yntau, ond arnynt hwy yr oedd y bai, oblegid na chyfranent ddigon tuag at ei gynaliaeth. Pymtheg punt yn y flwyddyn oedd yr oll a dderbyniai yn Heol-y-felin, er fod llawer o ddynion cymharol o gyfoethog yn perthyn i'r eglwys, a gallwn fod yn sier fod ei dderbyniadau o Lanfaches lawer yn llai na hyny. Ychydig cyn marwolaeth Mr. Saunders derbyniwyd gwr ieuangc o'r enw William Thomas i'r eglwys, yr hwn wedi hyny fu yno yn aelod defnyddiol ac yn ddiacon dylanwadol am lawer o flynyddau. Bob tri mis yr arferid casglu at y weinidogaeth y pryd hwnw. Pan oedd amser y casgliad chwarterol cyntaf ar ol derbyniad W. Thomas, yn agoshau, dywedodd wrth ei fam ei fod yn bwriadu rhoddi pum' swllt yn y casgliad, yr hyn a wrthwynebwyd ganddi mewn geiriau cryfion. "Ti," ebe hi, "yn rhoddi pum' swllt pan y mae yma lawer o ddynion cyfoethog nad ydynt yn rhoddi ond swllt neu ddau; y mae hyny yn afresymol." Pa fodd bynag, eu rhoddi a wnaeth y gwr ieuangc, a bu hyny yn fuan yn foddion i ddyblu y casgliad chwarterol. Pan welodd Mr. Saunders hyny, awgrymodd i'r eglwys ei fwriad, ond iddynt hwy wneyd eu goreu tuag at ei gynaliaeth ef, y buasai yn rhoddi ei swydd yn ngweithiau Mr. Hanbury i fyny, yn symud o Bontymoil i'r Casnewydd, ac yn rhoddi ei holl amser at waith y weinidogaeth. Ond cyn iddo gael amser i osod ei fwriad mewn gweithrediad, galwodd ei Dad nefol ef i le gwell.[1]

Bu Mr. Saunders farw yn Ionawr 1790, a dilynwyd ef yn mhen y flwyddyn, gan Mr. Howell Powell, yr hwn oedd ar y pryd newydd symud o Esgairdawe, sir Gaerfyrddin, i Langattwg, Crughowell. Bu Mr. Powell yma o Ionawr 1791, hyd Chwefror neu Mawrth 1798, pryd y symudodd i Ferthyr Tydfil, i gymeryd gofal yr eglwys a gyferfydd yn awr yn Zoar, yr hon oedd y pryd hwnw, newydd gael ei chorpholi. Am y pedair neu y pum' mlynedd cyntaf, o'i weinidogaeth yn y Casnewydd, bu Mr. Powell yn rhyfeddol o boblogaidd a llwyddianus, ond tua therfyn ei amser yno, cyhuddid ef o yfed yn annghymedrol, a pha un bynag a oedd y

  1. Mr. Charles Lewis's letter.