COFNODION BYWGRAPHYDDOL
DAVID WILLIAMS. Er pob ymchwiliad, nid ydym wedi dyfod i wybod ond y peth nesaf i ddim o hanes Mr. Williams. Yr oll a wyddom am dano ydyw, iddo gael ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin dan Mr. William Evans, ei urddo yn Llanfaches a'r Casnewydd yn 1710, ei fod yn byw mewn lle a elwir Salisbury, yn mhlwyf Magor, yn 1718, yn rhywle yn mhlwyf Maesaleg, yn 1738, ac iddo farw yn Rhagfyr, 1754.
Yr ydym yn casglu oddiwrth ddistawrwydd hollol pob llyfr argraffedig, a phob llaw ysgrif y gallasom daro wrthi, yn ei gylch, nad oedd unrhyw gyhoeddusrwydd nac enwogrwydd yn perthyn iddo; ac o'r tu arall, mae y ffaith iddo allu cadw ei le fel gweinidog i'r un gynnulleidfa am bedair a deugain o flynyddau, heb lwyr ladd yr achos, yn dangos fod ynddo ryw gymhwysder at waith y weinidogaeth,
ROGER ROGERS. Ganwyd Mr. Rogers yn y flwyddyn 1732, yn mhlwyf Bedwellty, ond nis gwyddom yn mha dy yn y plwyf hwnw. Ymunodd a'r eglwys yn Mhenmain, ond ymddengys mai dan nawdd Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn benaf y dechreuodd bregethu, canys yr oedd ei weinidog, Mr. Phillip Dafydd, yn teimlo rhyw oerni tuag ato. Yr ydym yn cael y ddau gofnodiad oerllyd a ganlyn yn nyddlyfrau Mr. Phillip Dafydd o berthynas iddo: "Mehefin 28ain, 1760.—Heddyw yr oedd ein cyfarfod parotoad. Nid oedd y cynnulliad ond bychan. Hysbysodd Roger Rogers i'r eglwys ei fod wedi derbyn rhywbeth a alwai yn alwad i bregethu yn y Casnewydd. Pa beth a feddyliai wrth wneuthur felly nis gwn i. Ni ddarfu iddo erioed ofyn cynghor yr eglwys, ond aeth oddiamgylch i bregethu o hono ei hun, fel y gwna y bobl a elwir y Methodistiaid, ac nid yw yn un o gymmeriad da yn ei gymydogaeth." "Awst 6ed, 1761—Yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Abergavenny heddyw, ac amryw weinidogion wedi dyfod yn nghyd yno. Pregethodd Mr. Joseph Simmons, yn Saesoneg, oddiwrth Mat. xxiv. 45; a Mr. William Evans, Cwmllynfell, yn Gymraeg, oddiwrth Mat. xxv. 13. Y prif fater fu dan sylw y Gynhadledd oedd achos Roger Rogers, yr hwn a urddwyd ar yr 28ain o Fai diweddaf, trwy waith Mr. Edmund Jones, heb edrych i mewn i gymmeriad y dyn; ond yn awr yr ydys wedi edrych i mewn iddo, ac y mae wedi ei gael yn anheilwng o'r enw sydd arno, er gofid i lawer.' Pa beth bynag oedd allan o le yn Mr. Rogers, mae genym bob sail i gredu nad oedd yn euog o unrhyw fath o anfoesoldeb, pe amgen, ni buasai gŵr o dduwioldeb Mr. Edmund Jones yn gosod ei ddwylaw arno; ac nid yn fyrbwyll y gwnaed hyny, canys yr oedd Mr. Rogers wedi hysbysu eglwys Penmain ei fod wedi cael galwad o'r Casnewydd tuag un mis ar ddeg cyn i Mr. E. Jones, ac eraill, fyned yno i'w urddo. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig mai rhyw ychydig o afreoleiddiwch gyda golwg ar ei gychwyniad fel pregethwr cyhoeddus, yn nghyda'r ysbryd Methodistaidd a amlygai, oedd cyfanswm pechodau Roger Rogers yn erbyn Phillip Dafydd a'i gyfeillion. Bu Mr. Rogers yn rhyfeddol o lwyddianus dros dymor byr ei weinidogaeth. Bu farw yn dair ar ddeg ar hugain oed, Awst 27ain, 1765, nid 1766, fel cam-nodasom yn hanes Llanfaches. Cafodd rai wythnosau o gystudd, a bu farw mewn llawn fwynhad o orfoledd crefydd. Dywedai ar ei wely angau, fod arno chwant cael ei ddattod ac i fod gyda Christ; "Ond," meddai, "buasai yn dda genyf gael gwneyd ychydig yn rhagor o waith