Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dros fy Arglwydd ar y ddaear." Cyhoeddodd Mr. John Thomas, awdwr "Caniadau Sion," farwnad i Mr. Rogers, yn mha un y cawn ddarluniad lled dda o'i gymmeriad. Caiff y dyfyniadau canlynol o'i farwnad orphen yr ychydig hanes sydd genym i'w roddi am y gweinidog ieuangc rhagorol hwn:—

"Mwyn cariadus oedd ei dymer, tyner, tawel ydoedd Roger;
'Dwy'n gweled fawr y ffordd 'rwy'n rhodio, yn mhob peth sydd debyg iddo;
Diwyd, doniol, hardd, a duwiol, defnyddiol, dewr o anian nefol;
Yn awr mewn hedd, draw i'r bedd, yn hardd ei wedd mae'n canu,
Canodd lawer yma o ddifri, mae'n canu'n well yn ngwlad goleuni.

"Er nad oedd ef, nid wy'yn ameu, mwy nag eraill heb wendidau,
Er hyn rhagorai, gwn, a'i wirio, ar rai ag oedd yn beio arno;
Eto mae fy ffydd neu'm ffansi, 'n ei glywed heddyw yn cyhoeddi,
'Does dim clod, i mi'n bod, fy Mhriod canmolwch,
'Rhwn a'm dygodd trwy'r anialwch, ei foli byth fydd fy nedwyddwch.

"Yn Ebenezer a Bedwellty, bu'n pregethu 'fengyl Iesu,
Casnewydd, Carwhill ar gyhoedd, a chyda hyn mewn amryw leoedd;
Mewn byr amser llwyddiant helaeth, gafodd yn y weinidogaeth;
Enillgar iawn, yn ei ddawn, araf, llawn cariad,
Gwahoddai'n daer bob gradd yn ddifrad, i ddod at Iesu wrthfawr Geidwad.

"Duw a'i llwyddodd ffordd y cerddodd, cadd fod yn fendith, do, i ganoedd;
Mae llawer ar ei ol hyd heddy', yn sir Fynwy'n prudd alaru;
Cafwyd colled, do, nid bychan, yn mhlith y rhai lle 'roedd ei drigfan,
Seren fawr, aeth i lawr, ni welir 'nawr o'i goleu;
Cyfod Arglwydd un o rywle, yn ei le, fel byddo eisiau,"


THOMAS SAUNDERS. Yr ydym yn tybied mai un genedigol o ardal Pontypool oedd Mr. Saunders, ac mai dan weinidogaeth Mr. Edmund Jones y dechreuodd grefydda a phregethu, ond nid ydym yn sicr o hyny. Cafodd ei urddo yn Llanfaches a'r Casnewydd, yn niwedd y flwyddyn 1769. Bu farw, Ionawr 9fed, 1790, yn 58 oed; a chladdwyd ef yn mynwent Heol-y-felin, lle mae ei gareg fedd i'w gweled etto. Clywsom, o enau rhai a'i hadwaenent ac a'i gwrandawsent, ei fod yn un o'r dynion mwyaf siriol ac adeiladol yn ei gyfeillach—fod y fath hynawsedd yn perthyn iddo fel y tynai bawb a'i hadwaenai i'w anwylo. Ni chyfrifid ef yn bregethwr mawr, ond oedd yn anarferol o felus i'w wrandaw. Dengys y cofnodion am fedyddiadau a marwolaethau, a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys, ei fod yn ysgolhaig da. Gresyn na byddai genym ddefnyddiau i roddi hanes cyflawnach am dano.

HOWELL POWELL. Darfu i Mr. Powell ysgrifenu ychydig o hanes ei fywyd, yr hwn a ymddangosodd yn y Cenhadwr Americanaidd am Chwefror, 1851, ychydig o amser ar ol marwolaeth yr ysgrifenydd. Ganed ef mewn lle a elwir Meity fawr, Cwmhyfer, plwyf Llywel, sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1758. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac felly cafodd y fraint o gael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Byddai yn cael ei gymeryd gan ei rieni i wrandaw y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrecastell a Defynog, a'r Annibynwyr yn y Brychgoed. Ond er ei holl fanteision, bu am rai blynyddau yn lled wyllt ac anystyriol, ond ni byddai un amser yn chwareu gyda phlant y gymydogaeth ar y Sabboth, nac yn cyflawni unrhyw bechod, heb fod ei gyd—wybod yn ei aflonyddu. Cafodd ei osod, pan yn un-ar-ddeg oed, yn egwyddorwas i ddysgu bod yn ddilledydd, a bu yn dilyn y gelfyddyd hono am flynyddau. Gwrandaw pregethau gan David Morris, a David Jones, o Bontypool, pregethwr enwog gyda y Bedyddwyr, fu yn foddion i'w arwain i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ymunodd a'r Methodist-