Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid yn Llanspyddid pan yn bedair-ar-ddeg oed. Bu yn aelod gyda'r Methodistiaid am rai blynyddau, ac, yn ol arferiad y dyddiau hyny, yn myned yn aml gyda y lluaws i Langeitho. Yn mhen amser diflasodd ar drefn y Methodistiaid o gymuno yn yr eglwysi plwyfol gydag offeiriaid annuwiol a dynion anfoesol, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Brychgoed. Pan yn ddwy-ar-hugain a chwe mis oed anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod yn pregethu yn y Brychgoed a'r gymydogaeth, gyda chymeradwyaeth mawr, am ychydig o amser; symudodd i ardal Esgairdawe, yn sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yno Mehefin, 13eg, 1786. Yr oedd pedwar-ar-ddeg o weinidogion yn ei urddiad. Bu yno tua phedair blynedd ar ol cael ei urddo, ac, fel yr ymddengys, tua yr un faint o amser cyn ei urddiad. Dilynwyd ei lafur yn yr ardal hono gyda llwyddiant rhyfeddol, ond o herwydd gorfod teithio llawer, ddydd a nos, ar hyd a lled y gymydogaeth fynyddig hono, collodd ei iechyd i raddau, fel y barnodd fod yn angenrheidiol iddo symud i le iachusach. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Llangattwg, Crughowell, a symudodd yno yn 1790, ond ni bu yno yn hir. Symudodd i'r Casnewydd yn Ionawr 1791, a bu yno hyd Wanwyn 1798. Yna symudodd i Ferthyr Tydfil, lle bu yn foddion i adeiladu capel Zoar. Yr oedd tra y bu yn Merthyr yn rhoddi haner ei amser i wasanaethu eglwys y Maendy. Tua y flwyddyn 1803 neu 1804, ymfudodd i'r America, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi myned yno ymunodd drachefn â'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu am flynyddau lawer yn weinidog iddynt yn Palmyra, Ohio, lle y bu farw Ebrill 12fed, 1850, yn 92 oed, wedi bod dros 69 o flynyddau yn pregethu yr efengyl. Brawd iddo ef oedd Jonathan Powell, Rhosymeirch, Mon.

Yr oedd Howell Powell, fel yr ymddengys, yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn ei oes, ac oni buasai fod rhyw beth yn ei ymarweddiad yn lladd ei ddylanwad, buasai yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol yn Nghymru; ac, er ei ddiffygion, bu ei weinidogaeth gyffrous yn fendith i filoedd. Nid oedd yn ddim ysgolhaig, ond yr oedd ei ddoniau effeithiol yn gwneyd i fynu i raddau mawr am y diffyg hwnw.

REES DAVIES. Ganwyd ef yn Erwyddalen, gerllaw Troedrhiwdalar, sir Frycheiniog. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhroedrhiwdalar gan Mr. Isaac Price, a dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1798. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Heol-y-felin, yn niwedd mis Mawrth neu ddechreu Ebrill, 1803, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny tuag Awst 1828. Bu yn briod ddwy waith. Bu farw ei wraig gyntaf Chwefror 21ain, 1823, a'r ail, Ionawr 7fed, 1849, yn mhen deng mlynedd ar ei ol ef. Darlunir y ddwy wraig yn llyfr yr eglwys, fel aelodau ffyddlon a defnyddiol gyda yr achos. Bu Mr. Davies ei hun farw yn Chwefror, 1839, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Heol-y-felin. Ar ddydd ei gladdedigaeth cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan Mr. Davies, Penywaun; Mr. Gillman, Casnewydd; a Mr. Gethin, Caerlleon; a'r Sabboth canlynol traddododd ei ganlyniedydd, Mr. D. Hughes, ei bregeth angladdol, oddiwrth Esay lvii. 1, 2.

Yr oedd Mr. Davies trwy ei oes yn gysurus iawn o ran ei amgylchiadau bydol. Fel dyn, yr oedd yn llawn hynawsedd a mwyneidddra; ac fel cristion, yn ddidwyll, gostyngedig, a phur; ond yr oedd rhyw ddiniweidrwydd plentynaidd ynddo. Swm ei bregethau bob Sabboth fyddai adrodd digwyddiadau yr wythnos flaenorol. Un Sabboth dywedai wrth ei wrandawyr mewn tôn gwynfanus, "Mae Mr. Davies, o'r Aber, wedi marw yr wythnos ddi-