weddaf, ac wn i yn y byd pwy gan nhw yn ei le; ac o ran hyny wn i ddim pwy gewch chwithau yn fy lle inau. Nid am na ellwch chwi gael digon yn fwy eu dawn, ond chewch chwi neb cystal ei rodiad." Yr oedd unwaith wedi adeiladu nifer o dai, ac wedi cael ei siomi yn y crefftwyr, a digwyddodd fod rhai o honynt o leiaf yn grefyddwyr. Tua'r adeg hono aeth i Droedrhiwdalar—ei ardal enedigol—i ryw gyfarfod gweinidogion, ac ar ei bregeth dechreuodd drin crefftwyr fel dynion twyllodrus ac anonest; ac ychwanegai "Ac o bawb crefftwyr, crefyddwyr yw y rhai mwyaf twyllodrus, cymerwch chwi hyny gen i." Cyffrodd yr hen batriarch o Droedrhiwdalar, a rhoddodd iddo wers nad annghofiodd yn fuan, am ddyfod yno i "godi godre yr eglwys," fel y dywedai yntau. Nid oedd dim yn ei ddawn na'i ysbryd yn ateb lle mawr a phwysig fel Casnewydd, ac anffawd fawr i'r achos oedd iddo aros yno cyhyd, er fod ei ymarweddiad yn hollol ddiargyhoedd.
JOHN JONES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanganmarch, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1789. Dychwelwyd ef at grefydd ar adeg o ddiwygiad grymus, o gylch y flwyddyn 1812, ond nis gallasom gael y dyddiad yn gywir. Aeth i gapel y Methodistiaid yn Llanganmarch, yn benaf er mwyn cael difyrwch ar draul y gorfoleddwyr. Pan oedd y pregethwr yn dyweyd yr adnod hono "Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a annghofiant Dduw," tybiodd yn sicr ei fod yn cyfeirio ato ef, ac yr oedd yn llefain am drugaredd cyfuwch a neb cyn diwedd y cyfarfod.[1] Unodd a'r Methodistiaid yn Llanganmarch, er fod y rhan fwyaf o'i berthynasau yn perthyn i'r gynnulleidfa yn Nhroedrhiwdalar. Aeth yn fuan i Lundain, lle yr oedd brawd ganddo yn ddilledydd; yr hwn oedd yn adnabyddus wrth yr enw "Isaac o Dreflys," am mai dan y ffugenw hwnw yr arferai ysgrifenu i fisolion y dyddiau hyny. Ac ysgrifenodd Mr. Jones lawer i'r cyhoeddiadau dan y ffugenw "Brawd Isaac o Dreflys." Pan yn Llundain unodd Mr. Jones a'r eglwys yn y Boro', ac yno y dechreuodd bregethu. Daeth i'r athrofa i Lanfyllin o Lundain, ac fel "Jones bach, Llundain " yr adnabyddid ef yn gyffredin. Wedi bod am ysbaid dan addysg, dan ofal Dr. Lewis, derbyniodd alwad o'r Main, gerllaw Llanfyllin, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1818. Llafuriodd yma yn ddiwyd am 12 mlynedd, ac nid yn ofer ychwaith. Gwnaeth ddaioni mawr trwy y wlad oddiamgylch. Dichon na bu mor ddefnyddiol a llwyddianus yn un cyfnod o'i weinidogaeth ag y bu y blynyddoedd hyn yn y Main a'r cylchoedd. Adeiladodd gapeli yn Mhontrobert a Phentre'rbeirdd, a thalodd am danynt. Priododd wraig o gymydogaeth Llanymynech, a chafodd ychydig o eiddo gyda hi, yr hyn a fu o help mawr iddo at fyw, gan nad oedd yn cael ond ychydig gan yr eglwysi yn mysg rhai bu yn llafurio. Yr oedd bywiogrwydd ei ysbryd, a'i fedr i bregethu yn rhwydd yn Gymraeg a Saesoneg, yn ei wneyd yn gymhwys iawn i faes cyntaf ei lafur. Derbyniodd alwad o Lanidloes, a symudodd yno yn Awst, 1830, i ddechreu ei weinidogaeth. Tynodd ei fywiogrwydd sylw y dref a'r amgylchoedd ar ei sefydliad yno; ond yr oedd yr achos yn wan a'r ddyled yn drom, fel nad arhosodd yno ond pum' mlynedd. Cafodd alwad i fod yn gydweinidog a Mr. D. Thomas, yn Mhenmain; ac fel y crybwyllasom eisoes tywyll ac ystormus fu cyfnod byr ei weinidogaeth yno. Beth bynag a ddywedir am gyndynrwydd y bobl, y mae yn rhaid i bawb a'i
- ↑ Llythyr y Parch. H. Jones, Llansantffraid, Chwef. 1af, 1870.