Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hadwaenai addef ei fod yntau yn fyrbwyll ac annoeth; ac yn cymeryd ei arwain gan rai cyfrwysach nag ef ei hun, ond heb feddu ei ddiniweidrwydd. Codwyd capel iddo gan y blaid a aeth allan gydag ef, ond nid hir yr arhosodd gyda hwy. Cafodd alwad gan hen eglwys Heol-y-felin, a symudodd yno yn y flwyddyn 1840, ond deuai i Jerusalem unwaith bob mis. Adfywiodd yr achos yn nghapel Heol-y-felin dipyn ar ei symudiad yno, a gwnaed ad-drefniad ar yr hen addoldy; ond ni bu ei arosiad yno yn hir.

Yn haf 1843, derbyniodd alwad o Frome, Somersetshire, a llafuriodd yno yn ddiwyd a defnyddiol hyd haf 1848. Derbyniodd fwy na 120 o aelodau yn ystod y 5 mlynedd y bu yn Rook Lane, Frome. Ond collodd ei iechyd a bu raid iddo roddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yn awr ger ein bron gymeradwyaeth uchel yr eglwys iddo, a sicrheir mai yn hollol o hono ei hun, oblegid sefyllfa ei iechyd, y rhoddodd yr eglwys i fyny. Arosodd yn Frome am ddwy flynedd wedi iddo roddi i fyny ei weinidogaeth; ond cynghorwyd ef gan ei feddyg i symud i awyr Cymru, gan ddisgwyl y gwnaethai hyny les i'w iechyd. Penderfynodd ar Lanymynech fel lle i ddiweddu ei oes, gan mai un oddiyno oedd Mrs. Jones, ond bu farw yn mhen y mis wedi cyrhaedd yno, a chladdwyd ef yn mynwent Llanymynech yn 1852. Mae ei weddw etto yn fyw yn yr un gymydogaeth, ac yn ymyl 85 oed. Dyn byr, cryf, crwn, oedd Mr. Jones o ran ei gorff—bywiog a byrbwyll o ran ei dymer—caredig dros ben, yn enwedig iddynion ieuaingc—a selog a thanllyd iawn fel pregethwr. Yr oedd fel y rhan fwyaf o ddynion yn hoff iawn o gael ei ganmol, ac ni chai y dyn a wnelai hyny iddo fyned o'i dŷ yn waglaw. Yr oedd yn rhy hoff o gyfeirio yn ei bregethau at feiau yr eglwys, a soniai yn aml am y black sheep oedd ganddo yn ei ddeadell gartref; ond yr oedd y black sheep yn dyfod i glywed y pethau hyn, ac nid hir y byddent heb osod eu cyrn dano. Yr oedd yn hynod o ddifeddwl pa beth a ddywedai. Daeth drosodd i gladdedigaeth Mr. Evans, Rhaiadr. Yr oedd Mr. Williams, Troedrhiwdalar, a Mr. Lewis, Llanfair-muallt, wedi eu trefnu i wasanaethu yn yr angladd; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael dyweyd gair ar lan y bedd, yr hyn a ganiatawyd iddo. "Wel frodyr bach" meddai "dyma un hen frawd anwyl wedi myn'd, ac y mae yma un arall etto ymron a'i ganlyn," gan gyfeirio at Mr. Williams, Troedrhiwdalar. "Gan bwyll" ebe Mr. Williams yn y fan, "mi ddalia atat ti dipyn etto; ac mi wna hefyd;" ac y mae Mr. Williams yn dal etto, er fod oes gyfan wedi codi er y claddwyd Mr. Jones. Un gonest a diddichell, caredig a maddeugar ydoedd; ac er ei holl wendidau yr oedd yn "Israeliad yn wir."

EBENEZER, PONTYPOOL.

Mae yr addoldy hwn yn sefyll ar lechwedd, ychydig uwchlaw Pontnewynydd, yn mhlwyf Trefddyn, neu Trefethin—y plwyf yn mha un y mae tref Pontypool. Mae hanes dechreuad yr achos hwn yn anhysbys, ond y mae genym seiliau cryfion i farnu ei fod wedi ei ddechreu rai degau o flynyddau cyn i Mr. Edmund Jones ddyfod i gyfaneddu i'r ardal. Mae yn wir fod ysgrifenydd hanes bywyd Mr. Jones, yn yr Evangelical Magazine, am Mai 1794, yn dyweyd mai efe ddarfu ddechreu yr achos yn y lle, ond yr ydym yn anmheu cywirdeb yr hyn a ddywed, nid yn unig o herwydd ein bod