wasanaeth i'r achos ag y bu mewn blynyddau blaenorol. Bu farw Mawrth 25ain, 1869, yn 73 oed. [1]
GLYNNEDD.
Er mai yn ddiweddar mewn cydmariaeth y dechreuwyd yr achos yn y lle hwn, etto y mae addoli wedi bod yn Nghwmnedd er dyddiau boreuaf Anghydffurfiaeth yn Nghymru. Ar drumun craig uwchlaw afon Cwrach, mewn llanerch gysgodfawr, o fewn llai na haner milldir i orsaf Glynnedd, y mae hen gapel Blaengwrach, ac yr oedd yma achos Ymneillduol er yn foreu iawn. Ystyrid y lle am dymor hir fel cangen o'r Chwarelaubach, Castellnedd, ac yr ydoedd dan yr un weinidogaeth. Ond tua'r flwyddyn 1718, urddwyd Mr. Henry Davies yn weinidog yn Blaengwrach, a llafuriodd yn y lle am yn agos i ddeng-mlynedd-ar-hugain. Dan ofal Mr. Davies yn Blaengwrach y bu yr hyglod Lewis Rees yn yr ysgol, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu, ac yno hefyd yr urddwyd ef Ebrill 13eg, 1738, fel y crybwyllasom yn hanes Llanbrynmair. Mae enwau a rhifedi yr aelodau yn y flwyddyn 1734 i'w gweled yn awr yn llawysgrif Mr. Davies. Yr oeddynt yn 63 o nifer; 34 o wrywiaid a 29 o fenywaid, ac yn wasgaredig trwy Glyntawy, Ystradfellte, Cwmdulais, a Glyncorwg, yn gystal a Chwmnedd. Mr. Davies, Blaengwrach a sefydlodd yr eglwys yn y Cymer, Cwmrhondda, fel y cawn sylwi pan ddeuwn at yr eglwys hono; ac ar ol ffurfiad yr eglwys yno symudodd i gymeryd ei gofal, a dilynwyd ef yn Blaengwrach gan Mr. Thomas Lewis, aelod o Benmain, yr hwn a fu yno o'r flwyddyn 1748 hyd 1773, pryd yr ymadawodd i Lanharan. Dilynwyd ef gan Mr. Thomas Morgan, yr hwn oedd yn Armin, os nad yn rhywbeth pellach; ac yn ei amser ef y dirywiodd yr eglwys yn ei golygiadau, nes o radd i radd yr aeth y lle yn hollol i ddwylaw y Sosiniaid, a chanddynt hwy y mae hyd y dydd hwn Bu Cwmnedd am dymor maith yn y cyfwng rhwng dirywiad y weinidogaeth yn Blaengwrach, a chodiad yr achos sydd yn awr yn Glynnedd, heb ddim pregethu efengylaidd o'i fewn; ac yr oedd y trigolion yn cydymroddi i bob rhysedd ac annuwioldeb. Yr oedd yma ychydig o grefyddwyr yn foreu yn y ganrif bresenol, a chlywsom rai o hen bobl Glynnedd yn son gyda pharch am un hen wraig, yr hon a fuasai unwaith yn aelod yn Blaengwrach, ond pan aeth y weinidogaeth yno i roddi sain dyeithr a ymaelododd yn Nhy'nycoed, ac a gerddai yr holl ffordd yno er mwyn clywed yr efengyl yn ei phurdeb. O gylch y flwyddyn 1812, dechreuodd Mr. Morgan Lewis, Ystradfellte, bregethu yn ei dŷ ei hun yn Abernantyfedwen a'r Banwaen Byrddyn, a ffurfiwyd eglwys yno, a derbyniwyd amryw aelodau o Gwmnedd yno. Yr oedd yn Nghwmnedd, ar y pryd hwnw, a chyn hyny, amryw aelodau o eglwysi Godrerhos, Melinyewrt, Ty'nycoed, a Hermon, y rhai a gynhalient gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol bob wythnos yn Penystair, Tainewydd, a lleoedd eraill, a deuai ambell bregethwr atynt yn achlysurol. Yr oedd Mr. Phillip Griffiths, Alltwen, yn mysg yr ychydig ffyddloniaid yma, yn ddyn ieuangc llawn bywiogrwydd a gwres crefyddol. Deuai Mr. Morgan Lewis i bregethu iddynt bob mis ar nos Fawrth, ac wrth weled yr achos yn myned rhagddo mor llwyddianus, ac yn cael ffafr yn ngolwg
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am ddefnyddiau yr hanes uchod, yn enwedig y rhan flaenaf, i ysgrif Mr. P. Griffiths, Alltwen, a ymddangosodd yn y Diwygiwr, 1849. Tu dal. 107.