Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES
EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU.

SIR BENFRO.

Mae y sir hon yn cael ei therfynu ar y Gorllewin a'r De gan For y Werydd a chul-for Caerodor, ar y Gogledd gan sir Aberteifi, ac ar y Dwyrain gan sir Gaerfyrddin. Ei harwynebedd yw 401,691 o erwau. Ei poblogaeth yn 1861 oedd 96,278, ac yn 1871 91,936, ac felly gwelir fod rhif y trigolion wedi lleihau 4,342, rhwng 1861 ac 1871. Amaethyddiaeth a mordwyaeth, agos yn hollol, yw y pethau yr ymddibyna y trigolion arnynt am eu cynaliaeth. Mae ychydig o weithiau glo yn y rhan ddeheuol o'r sir, ac amryw ganoedd o breswylwyr Pembroke Dock yn ngwasanaeth y llywodraeth yn adeiladu llongau rhyfel. Gan fod angorfa Aberdaugleddyf y mwyaf cyfleus a diogel yn yr holl deyrnas, i longau o bob maint i ddyfod iddi, mae yn dra sicr fod dyfodol llwyddianus o flaen y sir hon, ac mai yma yn mhen rhai blynyddau y bydd y rhan fwyaf o drafnidiaeth dramor y parth hwn o'r deyrnas yn cael ei ddadforio.

Yr oedd rhai gweinidogion puritanaidd yn y sir hon er amser y brenhin Iago I., os nad er amser Elizabeth, ond nid ymddengys i un eglwys Ymneillduol gael ei ffurfio yma hyd ar ol adferiad Siarl II. Cafodd deuddeg o weinidogion eu troi allan o'r eglwysi plwyfol yma gan ddeddf unffurfiaeth yn 1662, ond darfu i bedwar o honynt gydymffurfio drachefn. Yr wyth a safasant eu tir, yn nghyd a gweinidogion anghydffurfiol o siroedd cymydogaethol, ddarfu gasglu a ffurfio yr eglwysi Ymneillduol cyntaf yma. Annibynwyr oedd holl Ymneillduwyr y sir hon ar y cyntaf, ond darfu i'r Crynwyr, mor fore a'r flwyddyn 1651, ddechreu peri ymraniadau yn eu mysg, ac yn 1667 dechreuodd y Bedyddwyr sefydlu achosion yma, trwy offerynoliaeth Mr. William Jones, Cilmaenllwyd, yr hwn a newidiodd ei farn am fedydd, pan yr oedd yn garcharor yn Nghaerfyrddin am bregethu yr efengyl.

Mae yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn awr yn sir Benfro agos yn gyfartal mewn rhif, os oes ychydig o wahaniaeth y mae yn ffafr y Bedyddwyr. Mae y Methodistiaid Calfinaidd a'r Wesleyaid hefyd agos yn gyfarta mewn rhif. Ond nid yw y ddau enwad hyn yn nghyd cyn gryfed ag un o'r ddau enwad arall,

Rhif y capeli Annibynol yn y sir yw 71, a rhif yr eglwysi ffurfiedig yw 65.