Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr eglwys hon, er nad ydym yn sicr mai yma y dechreuasant bregethu. Bu Mr. H. Griffiths yn athraw duwinyddol yn Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Bowden. Am Mr. John Griffiths, rhoddir y ganmoliaeth uchaf iddo fel dyn ieuange dysgedig a chrefyddol. Ganwyd ef yn Llanferan, yn mhlwyf Dewi, yn sir Benfro, Ionawr 27ain, 1819. Wedi bod dan addysg barotoawl mewn amryw fanau, derbyniwyd ef i athrofa Coward, Llundain, yn Awst, 1836. Wedi bod yno yn efrydu yn ddiwyd am fwy na thair blynedd, nes ennill cymeradwyaeth ei athrawon a'i gydfyfrywyr, gwanychodd ei iechyd, a dychwelodd i dŷ ei dad yn Chwefror, 1810, a bu farw Ebrill 24ain, 1840, yn 21 oed. Yr oedd yn ddyn ieuangc o ysbryd gwir grefyddol, fel y tystia y rhai a'i hadwaenai oreu, ac fel y dengys y dyddlyfrau a adawodd ar ei ol. Dywedai ei athrawon mai anaml y gwelsant fyfyriwr yn fwy ymroddedig i'w waith, ac yn ymdeimlo yn llwyrach a phwysigrwydd ei dymor yn yr athrofa fel adeg i barotoi ar gyfer y weinidogaeth. Mor ddyrys yw ffyrdd rhagluniaeth pan yn tori ymaith y fath flodeuyn prydferth gyda'i fod yn dechreu ymagor. Dyfnder mawr yw dy farnedigaethau."

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JAMES GRIFFITHS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Clungwyn, yn mhlwyf Meidrym, sir Gaerfyrddin, Awst 2il, 1782. Yr oedd ei rieni, David a Margaret Griffiths, yn aelodau o'r eglwys Gynnulleidfaol yn Bethlehem, Bt. Clears, a'i dad yn ddiacon parchus yn yr eglwys hono. Efe oedd yr ieuengaf o wyth o blant. Derbyniodd addysg gyffredinol dda pan yn fachgen, a hyfforddiwyd ef, mewn pethau crefyddol, yn mhen y ffordd gan ei rieni. Yr oedd Mr. W. Thomas, Llwynbychan, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol yn Bethlehem, ac yn ŵr cyfrifol yn yr ardal, yn ewythr iddo, brawd ei fam, ac nid oedd gan James pan yn blentyn unrhyw uchelgais uwch na bod yn bregethwr fel ei ewythr. Dechreuodd deimlo argraffiadau crefyddol ar ei feddwl yn foreu, ac amlygodd ddymuniad cryf, yn enwedig ar ol marwolaeth ei fam, yr hyn a gymerodd le pan oedd tua deg oed, am fod yn aelod eglwysig. Yr oedd Mr. Morgans, Henllan, gweinidog Bethlehem ar y pryd, am ei dderbyn, ond barnai ei dad ei fod yn rhy ieuange, ac ofnai mai oddiar deimlad plentynaidd, ac nid oddiar ystyriaeth bwyllog, yr oedd y dymuniad yn codi. Taflodd hyn y bachgen yn ol dros dymor, a bu yn brofedigaeth iddo i ymollwng gydag ieuengetyd annuwiol, er iddo gael ei gadw rhag cydredeg a hwy mewn annuwioldeb. Wedi treulio ysbaid blwyddyn gyda'i frawd, Mr. Benjamin Griffiths, Trefgarn, wedi hyny, yr hwn oedd yn fasnachwr yn Llarboidy, dychwelodd i dŷ ei dad, a derbyniwyd ef yn aelod yn Bethlehem yn y flwyddyn 1798, pan yn un-ar-bymtheg oed. Bu farw ei dad yn fuan wedi hyny. Yr oedd ganddo frawd, David, yr hwn a fu yn noddwr caredig iddo, ac yn dyner iawn o hono, ac iddo ef yr hysbysodd gyntaf yr awydd a deimlai anı fod yn bregethwr, a chefnogwyd ef ganddo yn hyny, a derbyniodd gymhelliadau i'r un perwyl gan eraill. Aeth i'r ysgol at Mr. Evans, offeiriad yn St. Clears, lle yr arhosodd o gylch dwy flynedd. Y cynyg cyntaf a wnaeth ar ddim byd tebyg i bregethu, oedd mewn ty yn agos i Lanboidy, lle yr arferai nifer o gyfeillion crefyddol gyfarfod yn wythnosol i weddio,