Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r enw, "Blodau'r Gân," a'r "Gweithiwr Caniadgar." Ystyrir Derfel yn Hynafiaethydd rhagorol hefyd. Cyhoeddodd yn y flwyddyn 1866 gyfrol hardd gwerth 3s. 6c., ar " Hynafiaethau Llanllechid a Llandegai."

JOHN GAERWENYDD PRICHARD

Saif Gaerwenydd yn uchel yn rhestr y Beirdd. Mae efe yn fardd ariandlysog, ac yn Gadeirfardd. Ganwyd ef yn y Gaerwen, Môn, Ebrill 5ed, 1837. Pan yn 14eg oed, dechreuodd ar y gwaith o ddilledydd gyda'i dad yn y Gaerwen. Yn mhen ychydig flwyddi daeth at ei ewythr R. Humphreys i Bethesda, ac yno yr ymsefydlodd. Mae yn bresenol yn cynal masnach fel Tailor and Draper. Mae wedi cyfansoddi cryn lawer, ac ystyried ei oed; ac mae llawer o'i gyfansoddiadau wedi cael yr anrhydedd o fod yn fuddugol mewn Eisteddfodau a chyfarfodydd Llenyddol. PENILLION—"Y Cryd." Buddugol. "Y Beibl." Buddugol. ENGLYNION- Coffaydwriaeth am y diweddar Barch. Morris Jones, Jerusalem." Buddugol. Yn nghyda lluaws o englynion a phenillion ar wahanol destynau ereill. PRYDDESTAU—"Dedwyddych." Buddugol. "Crist yn y Deml gyda'r Doctoriaid. "Buddugol. "Ioan yn Ynys Patmos." "Y Phariseаd a'r Publican yn y Deml," Buddugol. "Marwnad i'r diweddar Mr. W. Thomas, Caellwyngredd." Cyd-fuddugol. Carchariad Garibaldi." Buddugol. "Bugeilgerdd," &c. CYWYDDAU- "Y diweddar Golyddan." "Y diweddar Mr. D. Prichard, Braichmelyn." "Yr Enaid." Buddugol. "Yr Oruwchystafell," Buddugol. "Cwymp Llywelyn." Buddugol. "Pont Menai," am yr hon y derbyniodd ariandlws. AWDLAU—"Adda." "Oen y Pasc." Awdl-