Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y gwirionedd ydyw, fod mwy a choethach dynion wedi codi o gymydogaeth Tre’rgarth, ar y cyfan, nag o un ran arall o'r ddau blwyf. Mae hynny i'w briodoli yn ddiameu i'r ymdrech diflino a fu yn mysg y trigolion am lawer o flynyddoedd. Yr ydym yn ofni fod y gymydog aeth wedi llaesu dwylaw i raddau pell iawn ers amryw flynyddau bellach yn hyn o beth. Dylem grybwyll hefyd am yr " Eisteddfodau Cerddorol a fu mewn bri mawr yn Bethesda yn y blynyddau 1851, 1852, 1853, &c., pryd yr enillwyd amryw o'r gwobrau gan frodor ion genedigol o Lanllechid a Llandegai, megys Alawydd, Eos Llechid, &c.

Gallem ddyweyd yn mhellach, fod sefydliadau er meithrin llenyddiaeth o dan yr enw "Cymdeithasau Llenyddol," neu "Gymdeithasau Cystadleuol," wedi eu sefydlu bron yn mhob capel yn y ddau blwyf, a hynny ers llawer o flynyddoedd. Mae yn ddiameu fod y sefydliadau hyn wedi bod yn foddion mwy arbennig i ddiwyllio meddwl a choethi chwaeth y trigolion, na dim a ymddangosodd yn y plwyfi hyn, oddieithr yr Ysgol Sabbothol yn unig. Nid oes un amheuaeth nad ydyw y sefydliadau hyn yn foddion rhagorol er cynhyrchu a meithrin llenyddiaeth yn y wlad.

Ddeng mlynedd ar ugain yn ôl, nid oedd y fath fan teision i'w cael i ieuenctyd ein gwlad. Wedi sefydliad y Cymdeithasau hyn, gallem ddyweyd iddynt fod yn offerynnau uniongyrchol i dynnu cannoedd lawer o'r ieuenctyd i geisio addysg, a chwilio am wybodaeth. Trwy yr holl amrywiol gyfryngau sydd yn y wlad, ac yn neillduol felly plwyfydd Llanllechid a Llandegai, nid oes ynwyf y petrusder lleiaf i ddyweyd fod y ddau blwyf hyn yn rhagori, ac yn tra rhagori, o ran eu gwybodaeth, eu dysg, a diwylliant meddyliol, ar un gymydogaeth o ddosbarth gweithiol yn y Deyrnas Gyfunol.