Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallem rifo degau o lyfrau gwerthfawr ereill, megys Esboniadau, Geiriaduron, y Gwyddoniadur, &c.

Gyda golwg ar sefyllfa ac ansawdd y canu—beth oedd a beth ydyw—gallem ddyweyd ei fod yn amrywio. Drigain mlynedd yn ôl, nid oedd yn y ddau blwyf nemawr i ddim canu. Yr oedd rhyw ychydig yn yr Eglwysi. Yn yr hen amser, pan y byddai Gwylmab santau a nosweithiau llawen yn cael eu cynnal, byddai yn y lleoedd hynny dipyn o ganu gyda'r delyn, &c.

Dichon na fyddai yn rhyfyg ynom dadogi y canu cysegredig ac eglwysig yn y ddau blwyf i'r diweddar Robert Williams, Cae-Aseth, ar yr hwn y gwnaethom ychydig sylwadau o'r blaen.

Mae yn hysbys mai Capel y Carneddi oedd y cyntaf yn y ddau blwyf, oddieithr Capel bach yr Achub, a Chapel bychan yn Caegwigin; ac i'r Carneddi y daeth Robert Williams gyntaf, ac yno y dechreuodd ar egwyddori y bobl ieuainc—rhai o bob cwr o'r ddau blwyf. Efe yn ddiau oedd tad Cerddoriaeth a Chanu Cynulleidfaol y ddau blwyf. Mae yn debyg mai ychydig ydyw nifer y lleoedd ag y mae canu wedi bod mor flodeuog a llewyrchus ynddynt ag y mae wedi bod yn nghapel y Carneddi. Nid oes ynom yr arswyd lleiaf i ddyweyd, fod canu Carneddi wedi bod, tua deng mlynedd ar ugain a deugain mlynedd yn ôl, yn rhagori ar un gynulleidfa yn y wlad hon. Dyma fel y dywed y diweddar Barch. John Elias yn nghapel Bethel, Môn, yn y flwyddyn 1837, wrth wneyd ychydig sylwadau ar ganu mawl: " Bobl, os dymunech chwi gael cynllun, cael patrwm o ganu da, canu â'r ysbryd ac â'r deall, ewch i gapel y Carneddi. Nid wyf yn dysgwyl clywed gwell canu tu yma i'r nefoedd nag a glywais yn nghapel y Carneddi, yn sir Gaernarfon." Gyda golwg ar y canu yn nghapel