Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nis gallem, o'r ochr arall, lai na'u rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai." Nid ydym yn bwriadu eu henwi, na gwneyd ychydig sylwadau arnynt, yn ôl eu teilyngdod llenyddol, nac yn ôl eu doniau gweinidogaethol. Na, ni a gawn eu henwi cyn belled ag y gallwn yn ôl eu hoedran. Mor bell ag yr ydym wedi cael allan, nis gadawn un gweinidog a anwyd yn un o'r ddau blwyf heb ei enwi, gyda'r Eglwys Sefydledig na'r Ymneillduwyr. Cawn enwi yn gyntaf

YR EGLWYSWYR.

PARCH. GEORGE GRIFFITH, D.D., LLANELWY

Esgob enwog oedd y gŵr hwn, yr hwn a anwyd yn y Penrhyn, yn y flwyddyn 1601. Dygwyd ef i fyny yn Ngholeg Westminster; ac oddiyno fe'i hetholwyd yn Fyfyriwr i Goleg yr Iesu, Rhydychain, yn 1619. Yn fuan daeth yn ddysgawdwr ac yn bregethwr enwog. Caf odd ei benodi yn Gapelwr i John Owen, D.D., Esgob Llanelwy. O'r lle hwn, dyrchafwyd ef gan Dr. Owen i berigloriaeth Llanfechan, yn swydd Drefaldwyn. Symudodd o'r lle hwn i Lanymynach, pryd yr oedd hefyd yn beriglor Llandrinio. Yn 1635, derbyniodd y gradd o " Ddoctor Duwinyddiaeth." Cawn ei fod wedi ysgrifennu amryw lyfrau gwerthfawr; a chyfieithodd y Llyfr Gweddi Cyffredin i'r Gymraeg. Yn y flwyddyn 1640, cynygiodd am argraffiad newydd o'r Beibl; ond nid ymddangosodd hyd y flwyddyn 1654. Oherwydd ei sêl a'i aidd dros yr Eglwys yn Nghymru, cafodd ei ordeinio yn Esgob Llanelwy Hydref 28, 1660. Bu farw Tachwedd, 1666, yn 65 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Nghôr ei Eglwys Gadeiriol. Gadawodd chwech o blant ar ei ôl un mab a phum merch un o ba rai a briododd gyda John Middleton, Ysw., o