Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o dan Mr. Parry a Mr. Edwards, i Athrofa y Bala. Dyma lle y bu am ddwy flynedd, yn llwyddiannus dros ben. O'r Bala aeth i'r University College, Llundain, lle y cafodd Honours perthynol i'r Coleg hwnnw. Yn y flwyddyn 1858, derbyniodd y gradd o B. A. (Bachelor of Arts) yn y London University.

Yn y flwyddyn 1856 cafodd alwad i fyned i wasanaethu yn eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd Liverpool. Dyma lle y mae yn bresennol, ond yr ydym yn deall ei fod, oherwydd ystâd egwan ei iechyd, yn bwriadu symud o Liverpool i gymeryd gofal yr eglwysi Methodistaidd yn Croesoswallt.

Gyda golwg ar Mr. Jones fel ysgolhaig, llenor, a phregethwr, mae yn ddiameu y gallem ei restru yn y dos barth cyntaf a gododd yn Llanllechid a Llandegai erioed. Cawn ei fod wedi ysgrifennu lluaws o erthyglau rhagorol i'r Gwyddoniadur a'r Traethodydd, yn nghydag amryw gyhoeddiadiadau ereill.

Hefyd, ysgrifennodd Esboniad ar Luc ac loan i'r "Testament yr Ysgol Sabbothol, " a gyhoeddir gan Mr. T. Gee, Dinbych.

Cawn hefyd ei fod yn awr yn parotoi i'r wasg " Llaw lyfr ar Ddaeareg," yr hwn a fydd, mae yn ddiameu, yn chwanegiad gwerthfawr at lenyddiaeth ein cenedl.

PARCH. WILLIAM ROBERTS, ABERGELE

Dyma ŵr sydd yn ffrwyth cynnydd a llwyddiant eglwys y Carneddi. Mae yn ddiau fod yr eglwys hon wedi bod yn un o'r rhai mwyaf ffrwythlawn mewn magu dynion cyhoeddus gyda chrefydd. Mab i Mr. R. Thomas, Bontuchaf, Carneddi, yw Mr. Roberts. Ganwyd ef yn Ciltwllan, Llanllechid, yn y flwyddyn 1830. Dygwyd ef i fyny gyda chrefydd o'i