Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

febyd, ac mae yn llawen gennym gael dyweyd na chafodd yr eglwys unrhyw ofid oddiwrtho erioed. Cawn iddo gael ei godi i bregethu gan yr eglwys y dygwyd ef i fyny ynddi yn y flwyddyn 1850. Ni bu yn y Carneddi wedi ei godi i bregethu ond dwy flynedd, pryd y symudodd i Abergele i gadw ysgol ddyddiol; ac cyfnod hwnw oedd rhwng ei ddyrchafiad i bregethu a'i fynediad i Abergele, bu yn derbyn ei addysg yn athrofa y Bala. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1861, pryd y galwyd ef gan yr eglwys Fethodistaidd yn Abergele i fod yn weinidog arni; ac yno y mae yn awr. Gyda golwg ar Mr. Roberts o ran ei alluoedd, ac fel pregethwr, nis gallwn lai na’i ystyried yn deilwng i'w restru yn y dosbarth blaenaf o'r gweinidogion a godwyd yn y ddau blwyf hyn. Mae adnoddau ac ymadferthoedd ei feddyliau yn arddangos cyfoeth diderfyn, yn nghyda galluoedd anhyspydd. Mae am ryw o'r elfennau hyny sydd yn gwneyd i fyny ddyn gwir fawr wedi cydgyfarfod ynddo; ond mae yn amlwg mai y ddwy elfen eglur yn ei gymeriad fel pregethwr ydyw, yr elfen athronyddol a'r farddonol; ac mae ei ddeheu rwydd yn cyfuno yr elfennau hyny â'u gilydd, a'u dwyn i arddull ymarferol, yn ei wneyd yn fuddiol, yn gystal ag yn boblogaidd. Gallem ddyweyd hefyd ei fod fel bardd yn cael ei restru yn uchel yn mhlith y beirdd. Mae lluaws o'i weithiau wedi ymddangos yn y Traethodydd o dro i dro, yn gystal mewn barddoniaeth a rhyddiaith.

PARCH. WILLIAM JONES, LLANLLYFNI

Mab i Mr. John J. Llystyn, Caemaesgollen, Llandegai, a brawd i'r pregethwr parchus a'r bardd tlws Mr. R. Llystyn Jones, a nai i'r diweddar Barch. W. John