Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II. Y BEIRDD

YCHYDIG o ddynion o enwogrwydd mawr, megys ag y crybwyllasom o'r blaen, a godwyd yn Llandegai na Llanllechid erioed, rhai ag y gallem eu hystyried yn gewri o ddynion. Eto, gallem enwi rhai wedi ymddyrchafu yn lled uchel fel ieithwyr, rhifyddwyr, pregethwyr, meddygon, cerddorion, beirdd, & c.; a'r rhai hynny wedi eu magu yn y plwyfydd uchod. Prin y gallem ddyweyd hyn am ein Beirdd. Ni fagwyd ynddynt Fardd erioed ag y byddai yn briodol ei osod yn y dosbarth cyntaf. Yn bresennol ni a gawn enwi y Beirdd hynny ag ydym yn ystyried yn deilwng o'u rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai." Crybwyllasom eisioes am enwau rhai ag yr ydym yn eu hystyried yn feirdd da, megys John Rogers, o Bant-y- ffrwdlas; William Abraham, Cil-treflys; Abraham Williams, Gwaen-y-gwiail; Richard Jones, Llanllechid; Morris Griffith, Llanllechid; &c. Awn yn mlaen yn bresennol i enwi y gweddill o'r Beirdd, gan ddechreu gydag

OWEN WILLIAMS (Bronydu)

Ganwyd y gŵr hwn yn y flwyddyn 1746. Yr oedd yn dad i Elias Williams, Bronydd, Llanllechid, ac yn daid i John Williams, Red Lion, Llanllechid. Derbyniodd 0. Williams ei addysg foreuol mewn ysgol ddyddiol yn Eglwys Llandegai. Ystyrid ef yn llenor gwych yn y dyddiau hyny: cydnabyddir ef fel bardd yn rhagori ar ei holl gyd—blwyfolion. Cyfansoddodd amryw awdlau rhagorol, englynion gorchestol, yn nghyda lluaws o gerddi, &c., tra dyddorol. Ychydig a ymddangosoda trwy'r wasg o'i weithiau, ac mae hyny yn resyn. Mae yn ffaith fod O. Williams yn tra rhagori ar ei gyfoedion mewn dysg ac athrylith. Yr ydym yn cael ei