Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aseth, yr hwn oedd ar y pryd yn arweinydd y canu yn nghapel y Carneddi. Bu R. Williams farw pan yr oedd R. Moses ond 21 oed; a noswaith ei gladdedigaeth dewisodd eglwys y Carneddi R. Moses yn arweinydd yn ei le ef, lle y bu yn gwasanaethu yn dra ffyddlawn am yr ysbaid maith o 34 mlynedd. Mae yn debyg mai fel arweinydd y canu y mae R. M. wedi enwogi ei hun ynbenaf. Mae wedi cyfansoddi amryw fân lyfrau hefyd, megys "Holwyddoreg ar ganu," "Hanes Bywyd R. Williams Cae Aseth". Cyfansoddodd gryn lawer mewn barddoniaeth hefyd, megys Marwnad i'r diweddar Asaph Llechid, & c. Er nad ydym yn deall iddo gyfansoddi nemawr mewn Cerddoriaeth, eto, cydnabyddir ef yn Gerddor lled dda. Ond fel y sylwyd, nid fel cerddor na bardd yr ydym yn ystyried R. Moses wedi enwogi ei hun; na, fel un wedi bod am gyhyd o amser yn un o'r rhai mwyaf llafurus a ffyddlawn fel arweinydd y canu yn y Carneddi.

JOHN WILLIAMS, Ysw., (Gorfoniawg o Arfon)

Gŵr genedigol o bentref Talybont, Llanllechid, a mab i'r diweddar Mr. Thomas Williams o'r lle uchod, yw Mr. Williams. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1814. Derbyniodd ei addysg yn mlaenaf gan y diweddar Mr. R. Williams, Cae Aseth, hyny ydyw, yn elfenau cyntefig Cerddoriaeth, ac ychydig oedd hyny. Yna efrydodd y "Caniedydd crefyddol," gan W. Owen, Drefnewydd; ac "Allwedd Cerdd Arwest," gan Mr. Harris, mab Joseph Harris, Golygydd y Seren Gomer y pryd hwnw. Efrydodd hefyd Ramadeg Cerddoriaeth Danser, yn Seisneg, yr hwn a ysgrifenodd bob gair a nodyn. Bu hefyd yn Liverpool, o dan addysgiaeth y diweddar Thomas Woodward, Professor of Music, am amser;