Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac am flynyddoedd drachefn efrydai bob gwaith Cerddorol a gaffai yn Seisneg, ac mae yn parhau i'w hefrydu hyd heddyw. Yr ydym yn deall fod Mr. Williams wedi ei ddyrchafu i swyddogaeth bwysig yn Liverpool, lle y mae er y flwyddyn 1839. Cydnabydda pawb fod Mr. Williams yn un o Gerddorion penaf ein cenedl. Cawn ei fod wedi ysgrifenu a chyfansoddi cryn lawer. Cyfansoddodd nifer mawr o Donau Cynulleidfaol; am ryw o Anthemau; ond ni welodd ond ychydig ohonynt oleuni dydd. Cychwynodd gyhoeddi Llyfr ar Gerddoriaeth. Daeth y rhifynau 1af a'r ail allan, a gwerthasant oll yn fuan; ond oherwydd annybendod yr Argraffydd yn dwyn y rhifynau allan yn amserol, (er fod y defnyddiau ganddo,) blinodd ar yr anturiaeth, a łyny am fod yr oediad yn peri iddo golled fawr. Ysgrifenodd Draethawd hefyd ar "Ganiadaeth." Cyhoeddwyd ef gan Mr. T. Gee, Dinbych, am yr hwn y derbyniodd bum punt. Ail drefnodd Ramadeg Mills hefyd i Mr. Gee, yn nghyda chwanegu rhai pethau at y llyfr hwnw. Ysgrifenodd gryn lawer i'r Gwyddoniadur Cymreig hefyd; megys yr Erthygl ar "Gerddoriaeth," yr hon nid yw ddim amgen na hanes y gelfyddyd; canys cyhoeddwyd yr Erthygl yn ddiarwybod iddo. Yr oedd y gelfyddyd ei hun i ddylyn, ac yr oedd yn barod, ac y mae yn ei feddiant yn bresenol; ond ni ddaw trwy'r Gwyddionadur, oherwydd rhyw resymau nas gwyddom ni. Ysgrifenodd amryw Erthyglau ereill i'r Gwyddionadur, megys dan y termau "Cân, canu, caniadau," &c., yn nghyda phob Erthygl o dan y cyfryw dermau. Bu hefyd yn beirniadu Cyfansoddiadau Cerddorol i luaws o Eisteddfodau, Cymdeithasau Cerddorol, yn nghyda Chyfarfodydd Llenyddol.