Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/88

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—yn ysgolhaig rhagorol, ac yn hynafiaethydd manylgraff. Ysgrifenodd lyfr o'r enw "Prydnawn-gwaith Cymru." Hefyd, ysgrifenodd lyfr tra galluog ar "Hynafiaethau Mynyddoedd Sir Gaernarfon, ac Achau Teulu y Penrhyn." Saddler wrth ei alwedigaeth oedd W. Williams.

ROBERT WILLIAMS, FRONDEG, BANGOR, oedd fab i W. Williams, Llandegai. Ganwyd ef yn y lle uchod tua'r flwyddyn 1787. Yr oedd R. Williams yn llenor o'r dosbarth cyntaf, yn fardd da, ac yn ysgrifenydd. gwych. Ysgrifenodd gyfrol o "Gorff o Dduwinyddiaeth " tra chymeradwy gan y Beirniaid mwyaf galluog. Tirfesurydd oedd ef wrth ei alwedigaeth, a bu yn sir Drefaldwyn am amryw flynyddau yn mesur y mynyddoedd. Mab iddo ef ydyw y Parch. R. Williams, Periglor presenol Llanfaelog, &c., Môn, yr hwn a ystyrir yn ysgolhaig rhagorol, yn llenor campus, ac yn un o'r gweinidogion mwyaf cymeradwy yn Esgobaeth Bangor.

RICHARD WILLIAMS, DOLAWEN, a anwyd yn y flwydd yn 1753, a bu farw yn y flwyddyn 1816, yn 63 mlwydd oed. Un o'r goruchwylwyr cyntaf a fu yn Chwarel y Cae, o dan Arglwydd Penrhyn, oedd R. Williams, Dolawen. Cawn y llinellau canlynol wedi eu tori ar gareg ei fedd yn mynwent Llanllechid:— "Efe a wasanaethodd 31 mlynedd megys talydd i'r gweithwyr yn y chwarelau llechi, o dan yr Arglwydd Penrhyn, yn mha le y rhyglyddodd barch a chariad am ei ddiwydrwydd, ei ofal, a'i fawr onestrwydd yn ei swydd a'i fasnach âg ereill."

RICHARD MORRIS GRIFFITH, BANGOR, a anwyd yn Penybryn-uchaf, Llanllechid, yn y flwyddyn 1788, a bu farw Rhagfyr 4ydd, 1843. Dechreuodd ef ei oes fel chwarelwr yn chwarel Cae-braich-y-cafn; ond pan tua