argraphiad o'r Bibl at wasanaeth y genedl yn 1746 a 1752. Ac er ei lafur dirfawr gyda phregethu, addysgu, a holwyddori, ysgrifenodd a chyfieithodd amryw lyfrau buddiol at wasanaeth y Cymry, megys "Esboniad ar Gatecism yr Eglwys"—yn cynwys corph o Dduwinyddiaeth; "Galwad at Orseddfainc y Grâs;" "Ffurf o Weddiau;" "Hyfforddwr at Orseddfainc y Grâs;" "Cynghor Rhad;" "Anogaeth i Folianu Duw;" "Llythyr ar y Ddyledswydd o Egwyddori;" "Casgliad o Ganiadau R. Pritchard," &c.
Cafodd wrthwynebrwydd dirfawr yn ei ymdrechion daionus, oddiwrth esgobion ac offeiriaid; erlyniwyd ef yn Llys yr Esgob, ac ysgrifenwyd llyfr bustlaidd i'w ddiraddio; ond ni chafodd dim lesteirio ei ymroddiad duwiolfryd a zelog dros enw ei Arglwydd ac achubiaeth eneidiau ei gyd-ddynion. Efe fu 'n foddion dychweliad Madam Bevan, a Daniel Rowlands, "offeiriad bach Llangeitho," a lluoedd eraill ddaethant yn gydweithwyr yn efengyleiddiad y Dywysogaeth. Mae Cymru yn fwy dyledus nag y tybir yn gyffredin i Seren fore Llanddowror, am ei chyflwr crefyddol presenol; ac nid oes ond y dydd mawr a ddengys y gwaith dirfawr a wnaed gan yr