Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

fy nheyrnas, dyna y dirgelwch." Mae nerth Prydain, nid yn ei chleddyf, ei mhagnel, a'i hamddiffynfeydd, ond yn ei Llyfr. Hâd anllygredig yw, yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Cleddyf yr Yspryd yw gair Duw. Trwy ei nerth ef y dymchwelir teyrnas y diafol, ac yr adsefydlir cyfiawnder a heddwch ar y ddaiar. Mae dynion drwg wedi arfer ei gasâu, ei gablu, a'i losgi, ond mae y Bibl yn byw i weled ei holl elynion yn trengu. Bywiol a nerthol ydyw.

Cawn gan' mil o galonau Cymreig heddyw i ddyweyd gyda ni, Hen Fibl anwyl, bydd fyw byth. Trysor penaf ein gwlad; ein coron, ein gogoniant, a dyrchafydd ein pen. Perl gwerthfawrocach na mynyddoedd Cymru, a'u holl drysorau. Tydi sydd wedi goleuo ein tywyllwch, wedi tynu ein beichiau oddiar ein hysgwyddau, wedi tori y llyfetheiriau oddiam ein traed, wedi agor dorau ein hên garcharau, a chyhoeddi i ni y rhyddid gogoneddus â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni. Tydi sydd wedi dyrchafu ein gwlad goruwch holl wledydd y ddaiar; wedi melusu pob bendith dymhorol i ni, ac wedi dwyn mil myrdd o fendithion tragywyddol i'n meddiant. Tydi sydd wedi datguddio i ni y golud anchwiliadwy, yr eti