Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

latodd." Gyferbyn a dechreu 2il Timotheus dywedir, "W. S., yr vn hwn a ddau iso." Gyferbyn a dechreu Hebreaid dywedir, "D. R. D. M., yr vn hwn at yr Ebreiat, ac y ddau i Petr ac vn i Iaco." Gyferbyn ag epistol cyntaf Pedr y mae "D. R. D. M." Gyferbyn a 1 Ioan y mae, "W. S., tri Ioan ac vn Judas." A gyferbyn a dechreu y Datguddiad y mae, "T. H. C. M., a translatodd oll text yr Apocalypsis yn iaith i wlat."

Argraphwyd ef yn Llundain yn y flwyddyn 1567, gan Henry Denham, ar draul Humphrey Toy. Yr oedd y teitl—ddalen fel hyn,—

"Testament Newydd ein Arglwydd Iesu Christ. Gwedi ei dynnu yd y gadei ŷr anghyfiaeth 'air yn ei gylydd o'r Groec a'r Llatin, gan newidio ffyrf llythyren gairiaedodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaeth y' wlat, ai o ran ancynefindery deunydd, wedi ei noti ai eglurhâu ar' ledymyl y tudalen gydrychiol." Yn niwedd y llyfr mae y geiriau hyn,

Imprinted at London, by Henry Denham, at the costes and charges of Humphrey Toy, dwelling in Paules Church Yard, at the sign of the Helmet.' "Cum privilegio ad imprimendum solum. Anno 1567. Octob. 7."