wneyd argraphiad o'r Bibl a'r Testament Cymraeg. Y nifer a orchymynwyd ydoedd 20,000 o Fiblau, gyda 5,000 o Destamentau yn ychwanegol mewn llythyren frasach. Ac-un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas—y Parch. T. Charles, o'r Bala—fu yn parotoi y copi i'r wasg. O'r flwyddyn 1806, hyd 1855, mae y Fibl Gymdeithas wedi gwasgar y nifer canlynol o Fiblau a Thestamentau:
Biblau | 417,489 | ||
Testamentau | 479,567 | ||
Dwyieithawg, Cymraeg a Saesneg | 36,166 | ||
Y cyfan | 933,222[1] |
Mae y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, yn yr un cyfnod wedi gwasgar nifer mawr, heblaw amryw argraphiadau o Fiblau teuluaidd, &c., eraill sydd wedi eu cyhoeddi gan wahanol argraphwyr. Wrth roddi y cwbl at eu gilydd, y mae yr oll a argraphwyd o'r Ysgrythyrau Sanctaidd, yn yr iaith Gymraeg, mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol amṣerau, yn fwy na miliwn o gopïau! "Nid oes un genedl arall ar wyneb y ddaiar wedi cael y fath gyflenwad o'r Ysgrythyrau yn eu hiaith eu hunain."
- ↑ "Gwyddionadur," dan y gair "Beibl."