Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/93

Gwirwyd y dudalen hon

gyda Rowland Heylin, aeth dan faich yr argraphiad o'r Bibl Cymraeg yn 1630, at wasanaeth y werin Gymreig. Dywedir fod ganddo ef law hefyd mewn dau argraphiad dilynol. Am y gwasanaeth hwn i gyflenwi Cymru â Gair yr Arglwydd y dymunai y Parch. Stephen Hughes fendith y genedl arno. Yn ragymadrodd i "Lyfr y Ficer," dywed,—

"Yr wyf yn dymuno o'm calon ar Dduw, ar fod i bob bendith ysprydol a thymhorol ddisgyn ar bob un o hiliogaeth Syr Thomas Middleton, yn Ngwynedd, neu un lle arall: Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif, fel tywod y môr, fel glaswellt y ddaiar, ac fel sêr y nefoedd. A bydded i bob un sydd yn Nghymru yn caru Duw, ac yn hiraethu am iachawdwriaeth eneidiau anfarwol, gyduno i gyhoeddi o'u calon, Amen, ac Amen boed felly. O Arglwydd grasol, bendithia epil Syr Thomas Middleton, a bydded ei enw dros fyth yn anrhydeddus."

Methodd i ni gael dyddiad ei enedigaeth na'i farwolaeth. Ei frawd, Syr Hugh Middleton wnaeth yr Afon Newydd i gyflenwi Llundain â dwfr.