Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/10

Gwirwyd y dudalen hon

nhw wyddai trwy brofiad yr anfantais i Gymry ymfudo bob yn un, neu yn fân ddyrneidiau i ganol cenhedloedd ereill, nes colli eu harferion a'u hiaith.

Wedi i'r Parch. M. D. Jones (Bala yn bresenol) orphen cwrs ei addysg athrofaol, aeth i'r Talaethau Unedig am dymor, a bu ei waith ef yn teithio yma a thraw yn mysg ei gydgenedl yno yn foddion i agor ei lygaid ar anfanteision y dull annhrefnus a gymerid i ymfudo. Gwelodd fod gwaith y Cymry uniaith yn cymysgu a chenhedloedd ereill yn peri iddynt golli eu crefydd, a thrwy hyny syrthio i gyflwr mor isel, fel yr oedd eu harferior yn rhy frwnt i'w hadrodd.

Dychwelod Mr. M. D. Jones i Gymru, a bu am dymor yn weinidog yn Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, ac yna dilynodd ei dad fel Athraw yn Ngholeg Annibynol y Bala; ond yn 1858 rhoddwyd gwahoddiad iddo gan y cyfeillion Gwladfaol yn yr Unol Dalaethau i ddyfod drosodd yno i areithio ar y pwnc o Wladfa Gymreig, am mai efe oedd yr unig ddyn o ddylanwad yn Nghymru y pryd hwnw oedd yn teimlo dyddordeb yn y pwnc. Cydsyniodd a'u cais, a bu yno am tua thri mis, ac yn ystod yr amser hwnw teithiodd lawer, a thraddododd ugeiniau o ddarlithoedd. Yr hyn a amcenid ato oedd cael gwlad wag, heb fod o dan lywodraeth dalaethol— tiriogaeth heb ei phoblogi, lle y gallai y Cymry sefydlu a llywodraethu eu hunain, a ffurfio a pharhau eu harferion cenedlaethol, a bod yn elfen ffurfiol yn lle yn elfen doddol yn eu gwlad fabwysiedig—cael gwlad ag y gallai Cymry ymfudo iddi yn ddigon lluosog i ffurfio cnewyllyn Llywodraeth Gymreig yn ddigon lluosog er cael cynulleidfaoedd Cymreig, ysgolion Cymreig, ac i gael meddiant digon llwyr o'r wlad, fel na lyncid hwy i fyny gan genhedloedd ereill o'u deutu.

Yr oedd yn Oshkos, Wisconsin, mab fferm gerllaw y dref, ddyn ieuanc o'r enw Edwin C. Roberts. Yr oedd hwn yn benboeth dros Wladfa Gymreig, ac yn y flwyddyn 1860 penderfynodd fyned allan i Patagonia ei hunan, os na chelai neb arall i'w ganlyn. Ond yn lle ymgymeryd a'r anturiaeth eithafol hono, perswadiwyd ef i fyned drosodd i Gymru, i weled a oedd yno ddim nifer