Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/12

Gwirwyd y dudalen hon

Rhoddodd hefyd dystiolaeth ffafriol iawn i Borth Madryn (New Bay) fel lle i angori llongau.

Mr. Phibbo oedd y Trafnoddwr Archentaidd yn Lerpwl yr adeg hon, a Dr. Wm. Rawson y Prif-weinidog yn Buenos Ayres, ac yr oedd y ddau foneddwr hyn yn awyddus i gael ymfudwyr allan i'r weriniaeth, ac yn neillduol i Patagonia. Yna dechreuwyd gohebu a'r Llywodraeth Archentaidd trwy y boneddwyr hyn. Syniad cyntaf y Gymdeithas Ymfudol Gymreig ydoedd cael breinlen ar ddarn eang o dir yn Patagonia, ar yr amod ei bod i roi ar y lle o fewn deng mlynedd o ddwy i dair mil o deuluoedd, ac y mae yn ymddangos oddiwrth y gobebiaethau a fu rhwng y Gymdeithas a Dr. Rawson ei fod ef yn ffafriol iawn i'r cynllun hwn.

Yn yr adeg hon dewisodd y Gymdeithas Ymfudol Brwyadaeth i weithredu drosti a'r Llywodraeth Archentaidd. Gwnaed y Brwyadaeth i fyny o'r boneddigion canlynol:—J. E. Whalley, Ysw., A.S., David Williams, Ysw., Uchel Sirydd Arfon; Robert Jones, Ysw., Masnachwr, Lerpwl; Proffeswr M. D. Jones, Bodiwan, Bala; a'r Captain Love D. Jones Parry, Castell Madryn. Rhoddwyd awdurdod i'r Brwyadaeth hon i dynu allan adlun o gytundeb a'r Llywodraeth Archentaidd yn nghylch dyffryn y Camwy, a'i arwyddo. Tynwyd allan y cytundeb, ac arwyddwyd ef dros y Brwyadaeth o un tu gan y Captain Love D. Jones Parry a Mr. Lewis Jones (yr hwn hefyd a benodasid yn Brwyad) o un tu, a Dr. William Rawson ar y tu arall i'r dyben i wneud y cytundeb uchod, yr oedd Dr. Rawson yn gweled fod yn angenrheidiol i'r Gymdeithas Ymfudol anfon allan ryw un neu rai i edrych y wlad, a dewis y lle yn gystal ag i arwyddo y cytundeb. Gan nad anturiaeth arianol oedd y symudiad, ond yn unig nifer o ddynion brwdfrydig dros les eu cenedl a pharhad yr iaith Gymraeg wedi ymuno i gefnogi a chynorthwyo ymfudiaeth mewn ffordd drefnus, yr oedd yn anhawdd cael arian i dalu i gynrychiolwyr i fyned allan i wneud y gwaith uchod.

Er nad oedd yn y Gymdeithas Wladfaol hon ddynion arianog, eto trwy ffyddlondeb a chydweithrediad, ac yn benaf trwy haelfrydedd y Parch. M. D. Jones, Bala, a'r