Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/144

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

debyg i fel y tyr y cigydd eidion neu ddafad i fyny, a rhenir y darnau cig rhwng y perthynasau a'r cymydogion, a bydd pawb yn gwledda arno. Tua prydnawn y dydd cyneuir tân mawr yn nghanol cylch wedi ei farcio allan, ac yna cesglir yr offerynau cerdd yn nghyd. Pethau syml iawn, gallwch feddwl, ydyw y rhai hyn. Y mae ganddynt fath o tumbarin neu symbal, rhywbeth tebyg i badell din fach, wedi amgylchu ei hymyl â chlychau bychain, ac yna bydd un o'r gwragedd yn curo ac yn ysgwyd hon. Y mae ganddynt fath o symbal arall wedi ei wneud o groen, ac wedi ei roi ar gylch pren, nes ydyw yn debyg i ogr, ond nad oes tyllau ynddo. Yn ddiweddar hefyd y mae rhai o'r dynion ienainc wedi dysgu chwareu tipyn ar y cordian: Y peth nesaf ydyw i'r dynion ieuainc ffurfio yn gylch oddeutu y tân i ddawnsio, tra y mae nifer o'r gwragedd yn brysur gyda'r offer cerdd. Mae y difyrwch hwn yn cael ei gario yn mlaen yn ngwydd y ferch ieuainc, yr hon sydd wrthi ei hun yn eistedd yn y casa lindo. Ac os byddant o fewn cyrhaedd, ymdrechir cael ychydig o wirodydd meddwol i godi tipyn ar eu hysbrydoedd i orphen yr wyl, fel y gwna y Gwyddel, a rhai Cymry a Saeson, fel y mae gwaethaf. Y mae yn drueni fod pobl gwlad efengyl hefyd yn myned i lawr i lefel Indiaid anwaraidd. Yn mlaen tua haner nos bydd y gluniau yn pallu a'r ysbryd yn trymhau, ac felly tynir pen ar yr wyl, ac a pawb i'w gaban i orphwys, a dyna ddiwedd ar y ddefod hono.

Defod arall yw priodas. Nid ydynt yn meddu unrhyw ddefod, mor belled ag y gwn, i briodi; hyny yw, unrhyw ddefod o roi modrwy ar y llaw, neu neidio dros yr ysgub, neu rhyw ddefod arall. Y maent yn priodi yn debyg fel y mae genym hanes am y patriarchiaid Isaac a Jacob. Rhyw fath o gytundeb â'r rhieni, wedi i'r par ienanc ddeall eu gilydd. Y mae yn rhaid i'r mab ieuanc dalu i'r tad mewn cesyg am ei wraig y bore y bydd yn ei chymeryd ymaith. Byddus yn cynal gwyl ar ddydd y briodas bron yn hollol yr un fath a diwrnod y casa lindo, ond yn unig na leddir cynifer o gesyg i wasgar rhoddion, ond gwneir gwledd, a chedwir y ddawns. Cyn terfynu ar y pen hwn, teg ydyw i wneud yn hysbys i'n darllenwyr nad oes yn mysg Indiaid Patagonia blant anghyfreithlon, na neb yn cydfyw fel y dywedir. Y maent yn