Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/20

Gwirwyd y dudalen hon

môr-deithio, ac edrych yn ol ar y fordaith hono, gwelaf ei bod yn bur debyg i fordeithiau yn gyffredin. Grwgnachwyd llawer am y peth hyn a'r peth arall, ond gwyr pob un sydd wedi mordeithio gydag ymfudwyr nad yw hyn ond peth i'w ddysgwyl hyd yn nod o dan y trefniadau mwyaf perffaith. Cafwyd hefyd ambell i ffrae ddiniwed yn awr ac yn y man. Y mae bron yn anmhosibl ysgoi hyn yn ol fel y mae dynoliaeth hyd yn hyn. Peth digon anhawdd yw cael heol o deuluoedd heb fod yno bwt o ffrae rhwng rywrai yn awr ac eilwaith, llawer llai y gellir ysgoi y path hyn ar fwrdd llong, pan y mae llond heol o deuluoedd yn byw yn yr un ty, ac yn cael coginio eu bwyd ar yr un tân, ac yn byw trwy y dydd a phob dydd yn yr un ystafell fawr. Cafwyd tipyn o ofid oddiwrth y ffaith mai lle pur brofedigaethus i ferched ieuaine anwyliadwrus ydyw bwrdd llong, ond wedi'r cwbl, wrth gydmaru y fordaith hono a mor-deithiau ereill a welsom, yr ydym yn gweled i bethau gael eu cario yn mlaen yn bur drefnus ar y cyfan. Cadwyd genym ddosbarth darllen ac esbonio ar y bwrdd bob dydd ag y caniataai y tywydd trwy y fordaith, cyrddau gweddi, ac ambell gyfeillach y nosweithiau, a dwy bregeth ac Ysgol bob Sul, os na fyddai y tywydd yn anffatriol. Wedi teithio cryn lawer erbyn hyn ar y môr, fy mhrofiad yw na welais un genedl mor selog am foddion gras, ar for yn gystal ag ar dir, a'r Cymry.

Yr oeddym yn Lerpwl yn rhifo 153 o eneidiau. Bu farw un plentyn yno cyn cychwyn, claddwyd dau ar y mor (babanod), a bu farw dwy ferch fechan ereill ar y mor, ond claddwyd hwynt yn naear Porth Madryn. Ganwyd dau ar y mor. Yn mhen triugain niwrnod dyma ni wedi myned i mewn i enau Porth Madryn, a thir Patagonia yn y golwg ar bob tu, a mawr oedd ein llawenydd. Yr ydym yn hwylio yn araf i fyny y porthladd. Y mae y porthladd hwn a elwid gynt, yn Saesonaeg, New Bay, ond yn bresenol Porth Madryn fel teyrnged o barch i Captain Love Jones Parry, o Gastell Madryn, Arfon. Y mae y porthladd hwn tua 36 milldir o hyd, ac yn cynwys dau neu dri o leoedd cymwys iawn i angori llongau ynddynt.