Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/33

Gwirwyd y dudalen hon

yn eu harfer, am mai ychain a ddefnyddid i weithio bron yn gyffredinol; felly nid oedd dim i'w wneud ond cymeryd y gaib a'r bâl i barotoi darnau o dir yn barod i'w hau. Nid oeddys y pryd hwnw, nid yn unig ddim yn deall yr hinsawdd yn briodol, ond nid oeddys ychwaith yn deall ansawdd a phosiblrwydd gwahanol ranau o'r dyffryn Felly dewiswyd y tir i'w drin oedd a thyfiant arno yn barod, am fod y rhan fwyaf o'r tir yn hollol ddidyfiant, a thybiem nad oedd hwnw fawr werth, gan nad oedd dim yn tyfu yn naturiol arno, beb wybod y pryd hwnw mai diffyg lleithder oedd yr achos o'r diffrwythder hwnw. Gydag offerynau oedd yn gofyn y fath lafur caled, ac amser mor hir i wneud hyd yn nod ychydig, gellir meddwl nad allodd y rhai cryfaf wneud ond ychydig erwau. Tir trofeydd yr afon a barotowyd bron i gyd, am ei fod yn dyfadwy, ac felly yr oedd yn gryf, ac yn anhawdd iawn ei balu ai geibio; ond trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad, yr oedd bron pawb erbyn dechreu Mehefin wedi hau ychydig erwau—rhai fwy, a rhai llai. Yn ystod Mehefin, cafwyd gwlaw tyner a thyfol anghyffredin, ac eginodd y gwenith ar bob llanerch, fel yr oedd golwg ddymunol iawn arnynt, a phob, un yn obeithiol a chalonog. Pan ddaethom yma gyntaf, ac am rai misoedd wed'yn, yr oeddid yn bur bryderus yn nghylch yr Indiaid. Pan yn teithio y nos, neu yn cysgu allan ar y paith, byddid bron myned i lewyg wrth glywed yegrech ambell i aderyn, gan dybio yn siwr mai swn mintai o Indiaid oedd. Buwyd felly mewn ofn a dychryn yn awr ac yn y man am rai misoedd, ond dim hanes am an Indiad yn ymddangos, nes oeddid bron myned i'r eithafion arall i gredu nad oedd yr Indiaid yn y wlad. Ond dyma ddyn yn carlamu i lawr y dyffryn, ac i'r pentref, ac yn dweyd, a'i anadl yn ei ddwrn, "Mae yr Indiaid wedi d'od," a thranoeth dyma hen wr a hen wraig, a dwy ferch, wedi gwisgo eu hunain mewn crwyn guanaco, yn gwneud eu hymddangosiad. Yr oedd ganddynt babell (tent), wedi ei gwneuthur o grwyn ac ychydig bolion, a nifer luosog o geffylau, cesyg, a chwn. Yr oeddynt hwy a ninau y naill mor ochelgar a'r llall, ac yn methu a gwybod beth i'w wneud o'n gilydd, gan nad oeddym yn deall un gair a ddywedai y naill