Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/46

Gwirwyd y dudalen hon

ein llong fechan yn troi yn ol i Porth Madryn; ac erbyn cyrhaedd yno, yr oedd yr holl Wladfawyr wedi gadael y Camwy, a d'od yno i ddysgwyl llong i'w cyrchu ymaith, yn ol fel yr oeddid wedi penderfynu. Galwyd cyfarfod cyhoeddus eto, a gosodwyd pethau fel yr oeddynt yn sefyll, mor deg a doeth ag y medrem o flaen y Gwladfawyr. Ar y dechreu yr oeddynt yn teimlo yn gynhyrfus, ac am fyned i rhywle yn hytrach nag aros, mewn rhan am eu bod wedi tori eu cartrefi ar y Camwy i fyny, a symud i'r porthladd, ac hefyd am eu bod drwy hir siarad a dadleu am y lle, wedi cael cas arno, ac yn gweled pob peth yn waeth nag ydoedd; ond wedi ail ystyried y mater, a gweled fod y tymor wedi myned yn ddiweddar i symud, a chan fod addewid am gynhaliaeth rad am y flwyddyn ddyfodol, daethent i feddwl mai gwell oedd aros, a gwneud rhyw esgus o brawf er cyfarfod â llythyren y cais, ac yna parotoi yu brydlon y flwyddyn ddyfodol i symud i Santa Fe.

Ond yr oedd yma rai yn ystyfnig am ymadael i rywle yn hytrach nag aros, ac yr oedd rhai ereill yn awyddus am fyned i Patagones, gan y buasent trwy hyny yn cael cadw yr hen enw Patagonia yn nglyn a lle eu preswylfod, ac felly penderfynwyd anfon nifer o bobl i Patagones yn y llong fach, i edrych y tir, a chael gwybod yn sicr beth fuasai amodau Augirie a Murga; ac felly bu, ac ni fuont yn hir cyn dychwelyd yn ol gyda'u hadroddiad. Nid oedd adroddiad y bobl hyn eto yn unol, ac nid oeddynt yn edrych yr un modd ar y tir, nac ar yr amodau a gynygid, a'r diwedd fu i dri theulu symud i Patagones, a'r gweddill benderfynu symud yn ol i'r Camwy, mewn cydffurfiad â chais Dr Rawson. Pan oedd ein llong fechan yn troi yn ol o Patagones y tro hwn, daeth atom deulu o naw, sef teulu Mr Rhys Williams, rhan o weddill y sefydliad hwnw yn Brazil y cyfeiriwyd ato yn barod. Felly anfonwyd y penderfyn iad hwn i fyny i Buenos Ayres at y llywodraeth, ac at y rhai oedd yn aros yno, ond digiodd y rhai hyny wrth y fintai am eu penderfyniad, a gwrthodasant ddychwelyd i'r Camwy, ac aethant i fyny i sefydlu i Bajaro Blanco, Santa Fe, ac yno y mae rhai o honynt hyd heddyw. Dyma ni yn awr yn mhen y ddwy flynedd ar ol y glaniad yn Mhorth Madryn eto, yn yr un lle, a bron yn yr un sefyllfa, yn barod i ddychwelyd yn ol i'r Camwy. Yr