Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hau a phethau ereill ar gyfer y teuluoedd. Yr oedd y dynion sengl yn gallu lletya mewn teuluoedd yn y Camwy heb orfod edrych am dai iddynt eu hunain, ac felly yn gallu myned i weithio ar unwaith, canys yr oedd yn awr yn nghanol tymor trin tir a hau. Cyrhaeddodd y llwyth cyntaf hwn y Camwy Awst yr 2il, 1874, ac mor fuan ag y glaniasant, aethant ati ar unwaith i agor ffosydd, a thrin a hau llanerchau o dir, y rhai a droisant allan fel rheol yn llwyddianus iawn mewn cnydau toreithiog. Dychwelodd y llong yn ol i ymofyn gweddill y minteioedd heb ymdroi dim, a daethant hwythau i lawr erbyn diwedd Medi neu ddechreu Hydref yr un flwyddyn. Dyma ni bellach, y ddwy fintai wedi dod i lawr, ac edrychir arnynt mwyach fel un fintai, sef mintai 1874, ac weithiau cyfeirir atynt fel minteioedd D. Ll. Jones a D. S. Davies.

Mintai 1865 a Mintai 1874.—

Yr oedd y fintai hon yn dra gwahanol i fintai y "Mimosa" yn 1865. Mintai oedd un y " Mimosa" o'r dosbarth gweithiol a llawer o honynt yn rhai tra anghenus. Nid yw dweyd hyn yn anfri arni, am fod cyflogau gweithwyr yr adeg hono yn isel iawn, fel nad oedd hyd yn nod y gweithiwr mwyaf diwyd a chynil yn gallu arbed nemawr ddim, ond erbyn 1874, yr oedd cyflogau gweithwyr yn Nghymru wedi cyfnewid yn fawr, ac feallai na fu cyflogau pob math o weithwyr—o'r ffermwr i lawr i'r labrwr isaf—mor uchel yn Nghymru erioed ag y bu yn 1874—5. Fel yr ydym wedi dangos yn barod, pobl heb ddim arian yn eu llogellau oedd corff y fintai gyntaf, ac wedi dyfod allan ar draul y Parch. M. D. Jones, Bala; ond wrth edrych yn ol ar yr amgylchiadau, yr ydym yn cael ein tueddu i gredu mai mintai gymwys oeddynt wedi y cwbl. Nid ydym yn gallu darllen rhagluniaeth yn mlaen llaw un amser, ond bob amser wrth edrych yn ol. Pan yn edrych ar y fintai gyntaf yn Lerpwl yn cychwyn tua Phatagonia, gallesid meddwl mai mintai anghymwys iawn ydoedd, ac yn wir, dyna oedd barn pobl am danynt pan yn cychwyn, ac wedi iddynt lanio, fel y prawf y llythyrau a ysgrifenid ar y pryd, a dyna hefyd oedd barn y Llywodraeth Archentaidd am danynt. Ond wrth edrych yn ol, yr ydym yn gweled mai ei thlodi oedd ei phrif gymwysder i gyfarfod a'r amgylchiadau cyfyng, boddloni ar fyd mor wael yn y blynyddoedd cyntaf, gan deimlo fod y byw hwnw, er cymeryd