Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gystal ag o'r newydd i ddyfod yn mlaen i ofyn am aelodaeth, am fod llawer wedi rhyw lacio a chilio yn ol. Wedi rhifo i fyny yr enwau, yr oedd yr eglwys wrth ail gychwyn yn rhifo 45, a dewiswyd yr Ysgrifenydd i fod yn weinidog, yr hwn oedd wedi bod yma o'r cychwyn. Gwel y darllenydd ein bod yn barod wedi hanesyddu yr amgylchiadau yn mlaen hyd tua chanol 1875. Wedi cael cynhauaf da a thoreithiog y tymor diweddaf, a phawb wrthi yn egniol yn parotoi ar gyfer y dyfodol—rhyw fath o ranu wedi ei wneud ar yr ochr ddeheuol, ac amryw wedi meddianu a phenderfynu ar le eu preswyliod, ac ereill wedi dewis eu tiroedd ar yr ochr ogleddol—rhai yn uwch i fyny, a rhai yn is i lawr—pob un yn ol ei archwaeth a'i farn. Yr ydoedd erbyn hyn mlaen yn Awst a Medi 1875, a dim argoelion i'r afon godi, ac felly yr Deddym oll yn teimlo yn dra phryderus, yn enwedig y fintai newydd, am nad oeddynt hwy eto wedi cynefino a siomedigaethau y tymorau.

Cyn myned yn mhellach yn mlaen i hanes y flwyddyn hon, y mae genyf i roi hanes y wedd oedd y symudiad Gwladfaol yn gymeryd yn mysg ein cydgenedl yn Nghymru a'r Unol Dalaethau. Yr oedd y Parch. D. S. Davies wedi dychwelyd yn ol i Gymru er diwedd y flwyddyn o'r blaen, 1874, ar ei ffordd i'r Unol Dalaethau at ei deulu, gan nad oedd efe wedi bwriadu aros yn y Wladfa yn barhaus. Wedi dod i Gymru, trefnwyd iddo fyned trwy Dde a Gogledd i areithio ar y Wladfa, ac wedi bod felly am rai misoedd yn Nghymru, dychwelodd at ei deulu i'r Talaethau Unedig, a bu yn teithio ac yn areithio llawer yno drachefn ar y Wladfa. Tua Mai neu Mehefin 1875, aeth dau sefydlwr arall am dro i Gymru, sef y Meistri E. C. Roberts a Lewis Davies, o Aberystwyth. Hwn yw yr Edwin C. Roberts, Oshkos, y soniasom am dano amryw weithiau yn barod. Yr oedd y sel Wladfaol yn para ynddo ef o hyd, ac wedi cyraedd Cymru, aeth atau i areithio ar y Wladfa, a chan i'r brodyr hyn, a hefyd y Parch. D. S. Davies ymadael cyn ei bod yn wybyddus nad oedd yr afon yn codi y fwyddyn hon, a ninau wedi cael y fath gyuhauaf toreithiog y flwyddyn o'r blaen, yr oedd yn naturiol i ddynion brwdfrydig fel D. S. Davies, ac E. C. Roberts, i osod pethau allan yn oleu a chalonog dros ben, ac felly y bu, ac mewn canlyniad