gan gryn lawer o vynd" eu gwlad, a chan vwyav yn berchen cryn dipyn o ddarpariadau ac oferynau addas i wlad newydd. Tynasai eu trychineb hevyd hwy drwy broviad i wynebu anhawsderau a dioddevaint gwlad ac arverion dyeithr. Yr oedd y vintai o Gymru yn ddetholiad engreiftiol iawn o bobl weithiol yr Hen Wlad —yn ddiwyd a chynil a bucheddus—rai yn fermwyr deallus, a'r oll yn gynevin â bywyd gwledig llavurus. Erbyn i'r ddwy vintai dd'od at eu gilydd, yr oedd iddynt bedwar o weinidogion
Parch Abraham Mathews
Anibynol—A Mathews yn dychwelyd o'i groesgad Wladvaol; D. Lloyd Jones wedi rhoddi eglwys Rhuthyn i vynu, ac yn myned i'r Wladva i barhau ei ymdrechion gyda'r mudiad yr aethai yn aberth iddo; J. Caerenig Evans (Cwmaman), am ei vod yn Wladvawr rhongc; a D. S. Davies ar ol ei longddrylliad tua'r Brasil, yn llwybro drwy dew a theneu i wel'd y Wladva drosto'i hun. Rhwng y ddwy vintai yr oeddynt agos mor luosog a'r Wladva ei hun,— ond eu bod hwy yn angerddol awyddus i gychwyn gwrhydri; tra'r gwladvawyr, wedi'r holl siomedigaethau a phrovedigaethau, yn anystwyth eu gobeithion a'u hyder, ac mewn perygl i fosylu ac ymollwng. Bu y dyvudwyr newydd dalm o amser cyn cyraedd pen eu taith oll. Buont