Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

velly tua thri mis yn Buenos Ayres. Nid oedd y ddinas hono y pryd hwnw ond anelwig ddigon, ragor yw yn awr, a'r darpariadau a threvniadau swyddogol ond amrwd iawn: velly, yr oedd bod agos i gant o Gymry yno gyhyd o amser, yn gwynebu am le na wyddid ond y nesav peth i ddim am dano, yn peri cryn ymholi a chywreinio yn y cylch swyddogol a masnachol. Ddechreu y vlwyddyn hono (1874) daethai y llwyth cyntav o wenith y Wladva i'r varchnad yno, a pharodd ei ragoriaeth ar bob gwenith arall gryn gyfro amaethol [gwel" Dechreu masnach y Wladva"]. Tŷ masnachol cyvrivol yn y varchnad hono ar y pryd oedd Rooke & Parry—yr olav yn Gymro trwyadl o Lanrwst, vuasai yn swyddva D. Roberts & Son, Liverpool, ond a ddaethai i Buenos Ayres yn y 6 degau: a thrwyddo ev y gwerthasid gwenith y Wladva. Yr oedd y tŷ masnachol hwn yn gyrchva vawr i'r dyvudwyr, a chan nad oedd Cartrev Dyvudwyr nepell oddiyno, byddai'r tramwy rhwng y naill le a'r llall—a hyny yn nghanol y drev—yn tynu cryn sylw. Wrth weled argoel mor dda am vasnach gyda'r Wladva prynodd y masnachdy hwnw y llong" Irene," i redeg ol a blaen: ac yn hono y danvonwyd yr ymvudwyr i ben eu taith: eithr yr oedd yn vis Medi cyn iddynt oll gyraedd.

Yr oedd derbyn a lleoli cyniver a 90 o ddyvudwyr gan y 120 gwladvawyr truain hyny, na welsent neb ond Indiaid (oddigerth cip ar bobl y tair llong) er's naw mlynedd, ac a syrthiasent yn naturiol ddibris o ymddangosion a chylchynion, yn ddefroad llwyr a dymunol wedi eu hir gyntun: a bu cyvathrach a thravnidiaeth vywiog rhyngddynt "pethau yr Hen Wlad" yn cael eu feirio am bethau y wlad newydd, arian Prydain yn pasio am aniveiliaid. I'r dyvudwyr newydd, mae'n debyg vod rhai dulliau a gweddau byw wthasai y wlad a'r amgylchiadau ar y gwladvawyr vel pethau rheitiol yn ymddangos yn chwith: eithr buan iawn yr ymdoddodd ac yr ymgystlynodd yr oll i'w gilydd i wneud y Wladva Adnewyddol. Wedi yr hir egwyl ar y môr, ac ar ol hyny yn Buenos Ayres, cronasai yni gweithio y newydd—ddyvodiaid vel argae (a dadebrasai egni y rhai cyntevig), vel pan gawsant ddaear y Wladva dan eu traed,a digon o le penelin, ymdavlasant i waith o ddivriv calon—wedi cael awgrymion yr hen sevydlwyr parthed y dyvrhau a neillduolion eraill y wladvel y bu gan yr oll, hen a newydd, gynhauav da y vlwyddyn ddilynol: er y cerddasai tymor llavurio ymhell cyn i bawb ddechreu cael gavael. Yn yr olwg ar y cnydau argoelus hyny yn eu blodeu, ac yn yr adgov o'r dilorni vuasai ar ddifrwythedd "tir du digroen" y Wladva, naturiol iawn oedd i lythyrau calonog y minteioedd hyny, a'r "hen wladvawyr," roddi Cymru a Chymry Amerig ar dân. Dylivodd dyvudwyr newydd yn garn ar eu gilydd yn 1875—glowyr goreu y Deheubarth, gan vwyav, y rhai vuasent ddarbodus a chynil yn yr "amser da"