Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gawsid cyn hyny, vel ag i vod, lawer ohonynt, yn ymvudwyr lled gevnog, parod ac addas i lavurio'r tir.

Wrth gwt y Vintai Adnewyddol danvonodd y Llywodraeth swyddogion i'r Wladva—cabden y borth a'i lu [gwel penod 20 "Yr Ormes Swyddogol "]. A bu govidiau lawer o'r plegid. Yr oedd y sevydlwyr newydd, wrth gwrs, heb ddeall yn iawn y sevyllva, ac yn bobl ochelgar, heddychol; ond yr oedd yr "hen wladvawyr" wedi cynevino lleodru eu hunain, ac yn eiddigus am eu hawliau ac am eu gwlad, a phan gawsant cyn bo hir engraift o'r swyddoga newydd oedd i vod arnynt, drwy weled cychwr y lle yn cael ei roi mewn cyfion, heb na llys na phrawv, bu aruthr ganddynt.

XIX.

DECHREU MASNACH Y WLADVA.

Cynhauav da 1873—4 a nwyddau Indiaidd, alwodd am long i'w travnidio i varchnad. Wedi colli gwasanaeth " llong y guano,' aeth Capt. Cox yn y Maggie," ac wedi hyny yn y "Pascual Cuartino,' ," i ail vasnachu gyda'r Wladva a Montevideo. Aeth yr olav i'r lan ger San Blas, wedi mordaith o 40 niwrnod! Yn eille aeth llong vechan gan un Charles Brown, a llwyth perthynol i un o hen gyveillion y Wladva yn Patagones, ac wele gyvieithiad o'r tâl gavodd hwnw :—"Hyn sydd i wirio vod Capt. Brown, yn ei long vach, wedi cyraedd yma yn ddiogel, a glanio y llwyth ddanvonasai Don Ygnacio Leon 'i awdurdodau y Wladva.' Ond ni thalwyd y freit. Gwnaeth Capt. Brown ei oreu i'w cael, ond y mae'r bobl ar hyn o bryd yn rhy dlawd i dalu, gan eu bod wedi gwerthu pob peth a veddent am ddillad, &c., i'r Cracker." Gwnaethum vy ngoreu i gael y freit i Capt. Brown—ond yr oedd yn anichon.—H. H. Cadvan, Llywydd, Mai 24, 1871."

Yr oedd y llong Brydeinig "Irene," berthynol i'r Falklands, yn arver pysgota moelrhoniaid ar gyfiniau y Wladva. Gwybu Capt. yr "Irene " (Wright), am y Wladva, a daeth i'r avon i edrych beth welai. Digwyddai fod dau o'r sevydlwyr (E. Price a J. Griffith), wedi cael cnwd da o wenith; a chytunasant ei ddanvon yn yr "Irene" i Buenos Ayres. Hwnw oedd y llwyth cyntav o wenith y Wladva allvoriwyd, a bu ryvedd gan vasnachwyr Buenos Ayres weled y vath ronyn. Gwnaeth yr "Irene " vordaith neu ddwy eilwaith i'r Wladva, ac agorodd masnachdy Rooke a Parry gangendy ar yr avon Chupat, i vasnachu yn y gwenith, a'r plu, a'r caws, ac ymenyn allai y Wladva werthu. Yn 1874, daeth y ddwy vintai vawr gynullasai D. S. Davies, A. Mathews, a D. Ll. Jones yn yr Unol