Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daleithau a Chymru. Cludodd yr "Irene " y dyvudwyr hyn a'u celvi lawer (taw dyvudwyr cevnog oedd y rheiny) ar ddwy vordaith neu dair. Gwerthwyd y llong hono, a phrynodd y masnachdy long arall, o'r enw 'Adolfo," gyda'r hon y buont yn travnidio am vlyneddau. Wrth weled llwydd y vasnach hono, daeth Cymro arall (J. M. Thomas), i gychwyn masnach gyda'r llong Gwenllian." A chyn hir iawn wedyn, vasnachwr Arianin, o'r enw Malaquias Nunez, yn y llong "Esperanza." Nid oedd raid mwyach bryderu dim am gysylltion travnidiol a chyvleusderau. Dylivai dyvudwyr drwy Buenos Ayres, ac os na vyddai llong yn hwylus siartrai y Llywodraeth long rhag blaen, i gymeryd y bobl a'u clud lawer i'r Wladva. Unwaith neu ddwy danvonwyd yr agerlong "Patagones" gydag ymvudwyr a'u celvi yn benodol i'r Wladva.

Pan ddechreuodd dyliviad dyvudwyr 1874—5, nid oedd y Wladva mo'r 200 o eneidiau. Ond yn 1876, pan gyhoeddwyd adroddiad y "Volage," yr oeddynt yn 690. Gan y cyraeddasai 412 yn union wedi i'r gwladvawyr allvorio eu holl wenith—heb y syniad lleiav vod y vath niveroedd i ddilyn—bu peth gwasgva a phrinder y vlwyddyn hono. Ond perthynai i'r Wladva y cyvnod hwn 3 o longau hwyliau—yn rhedeg i Patagones a Buenos Ayres. Cynyddasai y da corniog i agos 1000 o benau: gwerthwyd 6000 lbs. o venyn y vlwyddyn hono, 7000 lbs. o blu estrys (gwerth £1750); 1200 o ventyll crwyn Indiaidd (quillangos), gwerth £1800; a rhawn, crwyn, gwlan, a chrwyn moelrhoniaid, werth £1200; a 300 tunell o wenith. Erbyn 1880, pan gavwyd adroddiad y llong ryvel "Garnet," cynyddasai gwerth yr allvorion gwenith i £16,000; plu estrys, 15,000 lbs., gwerth £3000; quillangos, £2500; crwyn, gwlan, rhawn, &c., £1200. Erbyn 1885, yn ol yr “Amethyst,” yr oedd yno 1650 o drigolion. Ond yn 1881, buasai methiant llwyr am gynhauav, ac am ddwy vlynedd ddilynol i hyny cnydau salw a geid, a phrisiau isel (gwel hanes y Camlesi am eglurhad). Er y cawsid cnwd da yn 1884, nid oedd y pris ond £3 y dunell. Parhai y vasnach Indiaidd rywbeth yn debyg: ond gwelwyd nad oedd pysgota moelrhoniaid yn talu, gan nad oeddys yn deall yr adegau a'r dull blingo; ac velly peidiodd hono. Galwasai y vasnach am ddwy long arall—“ Patagonia” a "Monte Leon."

Hwn hevyd oedd cyvnod y Camlesi Dyvrio. Ar ol cael yr allwedd DYVRIO, buwyd dalm o amser cyn deall yn iawn sut i'w ddevnyddio. Yr oeddys, mae'n amlwg, heb adnabod llawer o neillduolion y wlad: canys yn 1868—9 gorlivodd yr avon dros yr holl ddyfryn, a chollwyd agos yr oll o'r cnwd godidog gawsid: tra y blwyddi dilynol ni chodai yr avon i uchder y fosydd gloddiasid i arwain y dwr dros y caeau—a chollwyd tymor cyvan o eisiau bod y fosydd vodvedd neu ddwy yn is ac yn lletach. Gwnaed tri neu bedwar cais i argaeo'r avon, vel ag i