Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

godi lyval y dwr ar gyver ardaloedd cyvain cydiol oedd a chydfosydd yn barod. Ond wedi llwyr vethiant cynhauav 1881, deallwyd y byddai raid cael Camlesi cyfredinol, digon o vaint a digon isel yn eu geneuau i gyvlenwi galwad ddyvriol y ddwy ochr i'r avon ar adegau iselav y tymor. E. J. Williams, rheolwr presenol y rheilfordd, ymgymerodd â chynllunio y rheiny, a gweled eu cario allan—dan gyvyngderau ac anhawsderau lawer.

XX.

YR ORMES SWYDDOGOL.

Yn 1874, pan ddaethai y ddwy vintai o ddyvudwyr Cymreig i Buenos Ayres a'u wyneb am y Wladva,—un o Gymru, a'r llall o'r Unol Daleithau—buont dalm o amser yno yn disgwyl cyvle i vyned i ben y daith. Nid oedd ond byr amser er pan sevydlasai y Llywodraeth" Swyddva Dyvudiaeth" furviol, i hyrwyddo a hyforddi dyvudwyr, a chodi Cartrev iddynt letya tra yno. Drwy hyny gwybu y Llywodraeth vod 90 o Gymry wedi d'od i vyn'd yn adgyvnerthiad i'r Wladva ar y Chupat—a'r newydduron yn dyvalu ac yn corddi: A dyna'r pryd y dechreuodd hili hỏni arbenogaeth am Patagonia. Yr oedd y Wladva wedi bod yn eu hymyl er's 9 mlynedd—yn eiddil a disylw er's llawer dydd, oddigerth pan vyddai daer iawn am ryw gardod neu long: ond hybiasai vyw yn dawel a threvnus, a dechreuai lwyddo'n awr. Pan ddadebrodd y Llywodraeth i ystyried dichonolion Chubut, a gweled argoelion y sevyllva newydd ar bethau, y cam cyntav gymerodd, wrth gwrs, oedd swyddoga, a danvon yno vath o coast—guard, dan yr enw llu cabden y borth, penaeth cyntav yr hwn oedd un Major Vivanco, ac wedi hyny R. Petit Murat, a Charneton. Danvonasid y Milwriad Murga yn 1865, newydd i'r vintai gyntav lanio, i roddi meddiant o'r tir i'r Gwladvawyr, a chodi y vaner Arianin yn arwydd o'r arbenogaeth dros y wlad. Erbyn 1874 ciliasai Dr. Rawson i vywyd preivad; ond dengys ei vywgrafiad gyhoeddwyd wedi ei varw, y gwelsai eve o'r cychwyn y cwmwl o Chili yn codi ar y llywel, parthed perchenogaeth arlwyddol Patagonia. Eithr dan yr Arlywydd Sarmiento, yn 1874, y barnwyd yn bryd adnewyddu yr hawliad, drwy ddanvon yno Gabden y Borth. A hyny oedd dechreu yr ormes vilwrol vu yn hunlle hir ar y Wladva.

Buwyd mewn cryn benbleth yn deall y swydd, a beth vyddai yr efaith ar y Wladva. Daethai yn y ddwy vintai dyvudwyr ddynion deallus—rai ohonynt wedi cael proviad o lywodraethiad yr Unol Daleithau, a rhai eraill wedi bod yn gweinidoga a llywiadu ar lawer o vaterion yn eu hen gartrevi. Yr oedd dyvodiad