Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyniver o ddyvudwyr gyda'u gilydd yn galw am holl sylw ac egni y sevydlwyr—i'w cyvarwyddo, a'u lleoli, a'u cynevino i amgyfred y sevyllva, vel ag i'r oll allu cydweithredu yn galonog. Ymddangosodd y paragraf canlynol mewn tri o newydduron dyddiol Buenos Ayres am Mawrth 28ain, 1879:

"Y Llong Santa Crws.—Ymedy yn y llong hon, i'r Chubut, yr is—ddirprwy porthol Br. Alejandro Vivanco, a chydag ev yr is—ringyll Candido Charneton, a'r gwylwyr arvorawl Rodolfo Murat ac Alejandre Gazcon. Y mae'r dirprwy dywededig yn dwyn gydag ev gyvlenwad o arvau, i'r diben o osod parchedigaeth i'r awdurdodau Arianin yn y Gwladvawyr Cymreig sydd yno."

Ond daeth Major Vivanco i lawr yn Gabden y Borth: ac un o'r pethau cyntav wnaeth oedd carcharu a chadwyno un o'r sevydlwyr, heb na phrawv na furv. A bu ryvedd gan y Wladva. Ymhen talm wedi hynyy daethpwyd o hyd i adroddiad y Major hwnw at y Llywodraeth, a bydd yn eglurhad ar y bygylu vu ar y Wladva y pryd hwnw, a wedyn:—

"Y mae eisieu deall yn vanwl y Wladva hon i wybod anhawsderau swyddog yn y lle, heb vod ganddo y cynorthwy i beri uvudd—dod i'w orchymynion. Yn y lle cyntav, y mae y trigolion, drwy vod wedi arver rheoli eu hunain, yn arddangos cymeriad tra avlywodraethus. Ac o'r ochr arall, y mae perygl ymosodiad Indiaid yn hawdd i'w weled yn ymyl, wrth eu bod wedi eu gwasgu o'u manau cynevin, ac nad oes ganddynt ond Chubut yn agored iddynt vedru arver eu tueddion yspeilgar. Mae amryw o'r Manzaneros wedi bod yma yn ddiweddar, i'r unig ddyben, mae'n ddiau, i edrych y rhagolygon am yspail. Velly, rhwng y ddau, mae'n gweddu rhoddi tervyn ar yr ansicrwydd hwnw, nid yn unig er diogelwch y sevydliad, eithr hevyd er tawelwch yr awdurdodaeth, yr hwn yn awr na all ddybynu ar unrhyw gymorth."

Yn yr un ysprydiaeth y danvonwyd y nodyn swyddogol canlynol, at ddilynydd Vivanco, sev Petit Murat, oddiwrth briv gabden y borth:—

Buenos Ayres, 12 Ebrill, 1879.

Hysbysir chwi vod Major Vivanco wedi clavychu, ac velly, mae Arlywydd y Weriniaeth wedi ymddiried i chwi y Borthva. Cewch yma y cyvarwyddiadau ddygai Major Vivanco, yn ol y rhai y bydd i chwithau weithredu. Caniatewch i mi sylwi wrthych mai un o'r rhesymau penav oedd gan y Llywodraeth yn eich penodi chwi oedd am y gwyddid eich yni a'ch dewrder chwi, a'r rhai y bydd genych i'w harver gyda'r bobl acw, ydynt wedi arver gwneud vel y mynont. I wneud eich swydd yn efeithiol, na phetruswch ddevnyddio yr adnoddau sydd yn eich cyraedd—