Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan gymeryd sylw y cyvle cyntav o'r hyn welwch yn eisieu— megys a vyddai well newid yr ynad, neu chwanegu milwyr, neu beth am gorforaeth.—MARIANO CORDERO."

Parodd llythyr bygythiol D. Mariano Cordero, yn union wedi llyfetheirio a baeddu y sevydlwyr Cymreig, i'r Wladva wrthdystio vel hyn:—

Chubut, Mai 23, 1879.

Mae y cyvarvod hwn o sevydlwyr y Wladva yn cymeradwyo pendervyniad eu Cyngor yn rhoddi cyvarch croesaw i Gabden y Borth. Ond wedi darllen llythyr y priv gabden, yn dymuno datgan yn bwyllog vod ysbryd a syniadau y llythyr hwnw yn codi oddiar gamddeall y Wladva, ac mai gwell vyddai i'n Cyngor ohebu gyda'r awdurdodau cenedlaethol i gael dealltwriaeth (1) A oes gan swyddva y llynges ryw awdurdod uniongyrchol i ymyraeth â rheolaeth leol y Diriogaeth, amgen na threvniadau y Borth. (2) Cydnabod yn barchus ysbryd caredig Swyddva Dyvudiaeth yn ei llythyr, ac mai deall yr ydym ni mai â'r swyddva hono—berthynol i'r Gweinidog Cartrevol, y mae a wnelo'r Wladva. (3) Vod llythyr Don M. Cordero wedi ei achlysuro gan gam—adroddiadau a chamliwiadau, ac mai buddiol vyddai i'r Cyngor ddanvon adroddiad cywir i'r Llywodraeth am sevyllva a theimladau pobl y lle. (4) Awgrymir yn barchus mai hyrwyddiad mawr i'r Wladva, ac esmwythyd i fyddlondeb y Wladva, vyddai i'r Llywodraeth gydnabod ac ymddiried yn awdurdodau lleol y sevydliad, nid yn unig vel cynrychioledd cywirach a mwy dealladwy o'n angenion a'n ceisiadau, eithr vel rhan gyvrivol o'r llywodraethiad cenedlaethol gwerinol. (5) Ein bod yn ymdrechu bob amser wneud hyny, ac yn ervyn am gyvarwyddyd y Llywodraeth ymhob achos y barna hi vod galw.



DYLIVIAD DYVUDWYR A DYVODIAD PRWYAD CENEDLAETHOL.

Nid oeddid ond prin ddechreu amgyfred y sevyllva a'r anhawsderau swyddogol dyeithriol——bawb yn ei helynt yn ceisio trevnu y bywyd newydd, un a'i vaes ac arall a'i vasnach—pau ddylivodd dyvudwyr chwanegol 1875 yn garn ar eu gilydd. Gyda hwy daeth y Prwyad Cenedlaethol (National Commissioner) cyntav —Antonio Oneto, ysgolhaig o Italiad o ran cenedl, ac yn medru Saesneg a Hispaenaeg gweddol, ond mwy o ddyddordeb ganddo mewn gwyddorau nag mewn travod dynoliaeth gymysg a dyeithr. Gydag ev danvonasid mesurydd tir o'r enw Thomas Dodds (Prydeiniwr—Arianin), i ad—drevnu y mesuriad blaenorol wnaethai Diaz yn 1865, ond a adawsai hwnw yn anorfenol; a'r Llywodraeth yn awr yn awyddus i hwyluso y sevydlwyr newydd i