Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gartrevu ar eu tiroedd ar unwaith—heb ddeall vawr o'r amgylchiadau. Tra y dyblasid y boblogaeth vel hyn mewn deuvis, danvonasai y Wladva eu holl wenith i varchnad Buenos Ayres, cyn gwybod am y rhuthr hwn o bobl. Rhagwelid velly y byddai prinder lluniaeth cyn y tymor dilynol. Yr oedd y Wladva yn ddolurus iawn oblegid carcharu y sefydlwr gan gabden y borth. Heblaw hyn oll, nid oedd gan y Prwyad Oneto, na'r Wladva, weledigaeth eglur parthed ei swydd a'i allu vel cynrychiolydd y Llywodraeth. Ei gyvarwyddiadau oeddynt :—"Chwi gewch yno gynulliad o bobl sydd er's 10 mlynedd yn llywodraethu eu hunain: etholant yn gyvnodol ynad a chorforaeth, maent wedi sevydlu prawv drwy reithwyr: a rhoddi i'w gweinyddwyr y gallu varnasant yn ddoeth, neu yn ol arverion sylvaenedig gwledydd gwâr. Hyn oll ddylech eu cydnabod a'u parhau vel y maent gan gyvyngu eich gweithrediadau i roddi i ni adroddiad manwl o'r trevniadau sevydledig yno, modd y gallo'r Llywodraeth bendervynu yn eu cylch maes law. —JUAN DILLON, Penaeth Swyddva Dyvudiaeth."

Wedi gweled cyvarwyddiadau y Prwyad Cenedlaethol newydd, ar iddo "barchu a pharhau y trevniadau lleol," nid oedd y Wladva yn barod i ollwng gavael o'r trevniadau hyny, a chydiai yr hen sevydlwyr yn dyn ynddynt: eithr mynai elven arall laesu dwylaw, a dygymod â'r prwyad a chabden y borth, rhag tynu gwg yr awdurdodau goruchel. Ceir gweled yn ol llaw i'r vrwydr hono barhau am 10 mlynedd—hyd nes y sicrhawyd Lleodraeth a llwybr Ymreolaeth. Nis gellir, gan hyny, obeithio vedru rhoi dilyniad syml iawn o'r digwyddion cyvrodedd a ddaeth gyda'r vath amrywiaeth o draferthion a chymysgva o vuddianau a chenelau.

Yr oedd dau bwnc lled vaterol yn galw holl sylw y gwladvawyr ynghanol y bendramwnwgl ddaethai yr un pryd a'r swyddogion newydd. Un oedd perygl prinder bwyd, a'r llall oedd rhaniad y fermi i'r sevydlwyr newydd. Cyn amgyfred y dyliviad pobloedd oedd i ddyvod, danvonasai y Wladva eu holl wenith i varchnad Buenos Ayres, i'w werthu, vel pan ddaeth y prwyad (a'r llu dyvudwyr) ei draferth gyntav oedd cael gan y Llywodraeth ddanvon dognau o luniaeth i'r rhai prin; ac wrth gwrs bu ciprys a helynt wrth ranu hwnw. Gwelwyd na lanwai hyny yr angen, ac velly bu raid i'r Wladva (vel cynt) wneud trevniad i gael cyvlenwad o vwyd a gwenith hâd o Patagones.

Y pwnc arall oedd advesur a rhanu'r tir. Fel y cyveiriwyd, danvonasai y Llywodraeth vesurydd, a phenodasai bwyllgor o'r sevydlwyr i arolygu y raniadaeth—y Prwyad, a'i ysgrivenydd, (R. J. Berwyn), L. J., D. Ll. Jones, a J. Griffith.

Pan yn y berw hwnw bu digwyddiad divrivol, gododd wrychyn y Wladva, ac a gododd hevyd i sylw amwysedd