Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyvarwyddiadau y prwyada grym y trevniadau lleol. Ydigwyddiad hwnw ydoedd pan laddodd morwr Frengig o'r enw Poirier, beilot lleol ar long yn yr avon (Charles Lynn), drwy ei daro yn varw ar ei ben â phastwn. Cymerwyd y llovrudd i'r ddalva yn y van, a chadwyd ev yn y carchar dan geidwaid govalus. Chwyrnai y Prwyad, ond ni symudai cabden y borth vys na llaw, er y gallesid tybied mai dan ei weiniad ev (morwrol) yr oedd y peth. Cythruddodd yr holl Wladva, ac yr oedd rhai yn tueddu i arver y dull Ianciaidd ar achlysuron o'r vath, drwy lynchio y lleiddiad ar y van. Bid a vyno, tyngwyd y rheithwyr, cymerwyd y tystiolaethau gyda chyveithydd o Gymro yn medru Francaeg, ac aethpwyd drwy yr holl achos yn furviol, mor agos ag y gellid i'r drevn Brydeinig: a rhoddes y rheithwyr varn unvryd o lovruddiaeth wirvoddol. Gwnaeth y Pwyllgor drefniadau i'w gadw'n garcharor diogel nes y ceid ystyriaeth bwyllog bellach ar y mater. Cyn hir, derbyniwyd y nodyn canlynol:—

{[right|Trerawson, Chwev. 9, 1876.}} At Rhydd. Huws, Ynad.—Yn enw y gyvraith, ac vel yr unig awdurdod genedlaethol yn y Wladva, yr wyv yn govyn i chwi roddi i vynu i mi y carcharor Louis Poirier, i'w ddanvon yn y llong "Adolfo" i'w roddi ger bron y llys cenedlaethol am droseddau. Os bydd i chwi wrthod vy nghais, deallwch, yn enw y gyvraith a'r Llywodraeth y byddav yn eich dal yn gyvrivol am holl ganlyniadau eich amryvusedd a thòr cyvraith. Mae gan bob dyn hawl i'w brovi gan y llys priodol, ac uwchlaw hyny yr hawl i apelio at Uchav Lys Cyviawnder, ac yn y diwedd ovyn trugaredd yr Arlywydd. Velly disgwyliav y rhoddwch i vynu y dyn wyv yn ovyn.—A. ONETO, Prwyad.

Rhag peri tramgwydd i'r awdurdodau goruchel rhoddwyd y dyn i vynu i avael y Prwyad, ac aethpwyd ag ev i Buenos Ayres: bu yno 2 neu 3 blynedd, yn myned drwy furv o brawv a phenyd: ond daeth yn ol i'r Wladva i ddangos ei hun yn ddyn rhydd, ac i deulu y trancedig, heb neb yn gwybod pa ddedvryd gawsai.

Yr un Prwyad Oneto ddanvonodd y nodyn canlynol at L.J.

Chubut, 1 Chwev., 1878.

Mae'r Piwyad Cenedlaethol svdd a'i enw isod yn eich awdurdodi chwi i vlaenori 20 neu 40 o ddynion arvog i archwilio cyfiniau y Wladva, a dal pwy bynag anhysbys i'r Wladva, a'u dwyn wedi eu diarvogi ac o dan warchodaeth i'r Brwyadva hon. Os ymosodir arnoch gellwch erchi tanio, ond gwnewch bob peth i osgoi tywallt gwaed.—A. ONETO.