Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglurhad yr uchod yw hyn:—Medrodd y Wladva ymdaro'n rhyvedd gyda'r brodorion drwy'r blyneddoedd. Yr oeddynt bob amser yn elven ansicr—o anianawd ac arverion anwar; yn weddillion cymysg o dri llwyth mawr a hen ddialeddau rhyngddynt wedi cynevino a bradychu eu gilydd a chael eu bradychu gan yr haner—brïd Arianin o'u deutu; yn ebyrth gwallgov i'r gwirod pan gafent gyvle, ac ar vin divlanu vel pobl o vlaen cadgyrch vawr y Cadvridog Roca, nes ymgynddeiriogi. Nid rhyvedd gan hyny pan ddaeth sibrydion i'r Wladva vod yr Indiaid yn bygwth ymosod ar y lle, vod peth cyfro ymhlith y sevydlwyr. Wedi cael y nodyn uchod aethpwyd yn llu arvog― ond lled avrosgo—hyd at y Creigiau Cochion i chwilio am vrodorion. Ond yn lle dod ar draws lluoedd y "Manzaneros rhyvelgar, digwyddodd vod llwyth cyveillgar Sac-mata yn d'od i lawr i varchnata vel arver: a rhyvedd y rhedeg a'r rhusio vu heb ddeall pwy oedd yn foi na pwy oedd yn ymlid. Wedi ymgrynhoi i'r Gaiman cavwyd dealltwriaeth sut yr oedd pethau. Ond deallwyd ymhen amser vod peth gwir yn y bygwth, ac mai yr hen Tsonecod, wersyllent ar y pryd ger Gaiman oedd wedi cael gwynt ar y stori, ac yn eu braw (taw pobl lwvr oeddynt hwy) wedi gollwng y gath o'r cwd. Ond mae'n debyg i adroddiad y Tsonecod o'r vilwriaeth (?) hono vrawychu y brodorion ar y pryd vel na wnaethant vyth ymosodiad o ddivriv, ond pan laddwyd y tri Chymro yn Kel-kein [gwel hanes hyny].

Y pryd hwnw dodes cabden y Borth (nid yr un swyddog a chynt) un arall o'r sevydlwyr mewn cyfion, yn garcharor, a gwrthdystiodd y Wladva vel y canlyn:—

Chubut, Tachwedd 22, 1879.

Yr ydym ni sydd a'n henwau isod yn gwrthdystio yn bwyllus a divrivol yn erbyn traha y swyddog llyngesol, yn dodi un o'n cyd—sevydlwyr mewn cyfion creulon dan ddedvryd o 10 niwrnod, ar gyhuddiad o drosedd, heb brawv rheolaidd yn ei wydd ev ei hun a thystion, ac velly'n groes i arver pobl wareiddiedig, yn sathru breiniau gwerthvawr y Wladva, ac yn sarhad ysgeler ar y Llywodraeth Genedlaethol. Yr ydym hevyd yn galw ar ein hawdurdodau lleol i roddi i ni eglurhad pa vodd y bu'r vath drais ar ein hiawnderau, a pa gamrau gymerir i'n hamddifyn o hyn allan. Nid ydym drwy hyn yn dadgan unrhyw varn am y cyhuddiad o drosedd.—J. B. Rhys, L. Jones, a 32 eraill.



EIN BREINIAD—HOGI ARVAU.

Yn yr helbulon "rhanu'r bwyd," a "rhanu'r tir," a'r Ormes Swyddogol yn trymhau, ac aniddigrwydd dyvudwyr ar y bywyd newydd yn boenus ddigon—yr oedd gyvyng iawn ar y Wladva yn y cyvwng hwnw. I wneud pethau yn waeth, nid oedd y