Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sevydlwyr eu hunain yn cydweled parthed swydd na doethineb y prwyad yn gweinyddu. Buwyd yn y benbleth hono ran o ddwy vlynedd—yn cynal cyrddau ac yn cynal etholiadau. Yn y cyvamser cawsai L. J. gnewyllyn ei wasg argrafu; ac yn Medi 21, 1878, daeth allan y rhivyn cyntav o Ein Breiniad, newyddur wythnosol bychan i wyntyllio y gwahaniaethau parthed iawn weinyddiad y Wladva, a'r gwingo rhag yr Ormes Swyddogol. Gwasanaethed y dyvynion a ganlyn o'r newydduryn hwnw vel flachion trydan ar y caos oedd yn amgau y Wladva, a chaif y darllenydd weled yn y llyvr hwn y gwreichion danbeidient drwy'r awyr yn y tywyllwch hwnw, a sut y daeth y Wladva i oleuni dydd yn y man. "A minau a anwyd yn vreiniol" ebe Paul, sydd eglurhad ar yr enw.



Bloedd Corn Gwlad.—Ymysgydwed y Wladva! Ai dibris genym ein Breiniad—insel ein dyndod gwladol? Pa mor chwithig bynag yw y vywoliaeth yma, ragor yr hyn bortreadodd llawer iddynt eu hunain wrth gychwyn, y mae ein rhyddvreiniad (a'n hiechyd) yn gafaeliad trwyadl. Gwylier na vo i'n hir—gynevindod â GWASANAETHU ein gwneud yn ddibris o'r vraint a'r gallu i LYWODRAETHU. Y mae i ni viloedd lawer o vrodyr yn Hen Wlad ein Tadau yn dyheu am ryw lais yn llywodraethiad eu gwlad ond yn over; a phe cawsent, y maent mor ychydig yn y pentwr aruthrol vel na vyddai eu llev ond main, main ar y goreu. Ein cevnderwydd, y Gwyddelod, a geisiant yn ddyval uno eu gwaedd hwy am Hunanlywodraeth ac y maent hwy lawer luosocach cenedl na nyni—ond gwawdir y waedd vel ysgrech anhywaeth, anheilwng o unrhyw sylw amgen na dodi bysedd yn y clustiau rhagddi. Eithr ninau yma ydym oll yn vreiniol. Nid yn unig nyni sydd i ddywedyd pa vodd a phwy i'n llywodraethu, ond nyni hevyd sydd i lywodraethu. Ai bach o beth hyn genych, chwi wehelyth breinwyr Hywel Dda? Tebycach o lawer mai heb iawn synio yn ei gylch yr ydych, oherwydd hir bylu ein syniadaeth wleidyddol gan wasgveuon amgylchiadau yn Nghymru yn llyngeu pobpeth iddynt eu hunain. Er's canrivoedd y mae ein cenedl ni heb ymarver dim â'i ddawn wleidyddol, am nad oedd ganddi wlad. Eithr wele genym ni Wlad yn awr, a rhaid ymysgwyd ati o ddivriv i'w gwleidydda.



Cyvarvod Gwleidyddol Medi 18ved, 1878.—Sylwadau gan D. Ll. Jones.—Teimlai vod y dull presenol o arolygu gweinyddiad y Wladva yn anefeithiol. Yr oedd bod yn aelod o'r Cyngor yn vaich a threth ar amser ac amynedd: methu cael eisteddiadau, ac wedi eu cael, methu gwneyd dim. Priodolai hyny yn un peth am vod yr aelodau yn byw mor wasgarog, ond