Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn vwy am vod y Cyvansoddiad, vel y mae, yn atalva yn hytrach nac yn arweiniad. Pan ymgynullid yn vrysiog ar nawn Sadwrn, byddai rhyw vân negeseau yn galw eu holl sylw, vel na cheid hamdden i wneud gwaith gwirioneddol. Cwynai y wlad, ac yr oedd y sevydlwyr newydd yn neillduol yn methu deall y sevyllva. Dywedid vod gwaith mawr wedi ei wneud gynt, ond yr unig beth—yr unig lecyn glas—a welai eve oedd gweinyddu barn, ond yr oedd y trevniadau hyny y rhai salav oedd gan unrhyw gymdeithas wareiddiedig. Wneir dim o honi nes cael breinlen corforaeth o dan law Arlywydd y Weriniaeth. Nid oedd y Cyvansoddiad presenol yn arweiniad i ddeddvu cadarn nac yn gwarchod finiau y deiliaid. Yr oedd enaid y peth ar ol—dim awdurdod. Nid oedd yn ein cysylltu â'r Weriniaeth, ac heb hyny yr oedd yn anichon i'r Cyngor wneud dim. Pobpeth a wneir yn unol â'r cyvreithiau cyfredinol Arianin, gallai hyny sevyll. Yr oedd fyrdd a fosydd, addysg, a gweinyddiad barn yn galw yn uchel am sylw, ond nid oedd allu i'w pendervynu. Cavwyd anhawsder gyda'r cyvrivon, oherwydd yr aml swyddogion yn bwrw bai y naill ar y llall, ac oherwydd anhawsderau cyvansoddiadol meddid. Os ydys am ethol, myner Cyngor wedi ymrwymo i vynu trevniadau gweithiadwy. Myner Corforaeth, a diau y cafai hono stâd o dir ar gyver stâd o ddyled y Wladva. Nid oedd yr amryw vân swyddau sydd yma ond dynwarediad, a gellid eu crynhoi i UN meddwl a llaw gyda mantais—y llywydd, yr ysgrivenydd, a chadeirydd y Cyngor yn un Maer, a hwnw yn vaer ynadol. Hyd nes y ceid hyny, teimlai nad ymgymerai eve o hyn allan âg unrhyw benodiad gwleidyddol yn y Wladva.

L. J. a sylwai:—Yr oedd eve yn eithav awyddus i wyntio pwngc y Gorforaeth, pan welai adeg gyvaddas : ond syniai mai nid ar draws nac yn ystod ein hetholiadau sevydledig ni oedd yr adeg hono. Nid oedd yn llwyr ddeall beth a olygid wrth Gorforaeth yn y Wladva. Am yr hyn a alwai Cyvansoddiad y Weriniaeth yn municipalidad, datgenid yn bendant yno ma hawl Daleithol oedd hyny, yn yr hyn, vel y cyvryw, nad allai y Llywodraeth Genedlaethol ymyryd Os dywedid nad oeddym ni Dalaeth, ac mai y Llywodraeth Genedlaethol oedd iovalu am danom yn mhob peth, yna dywedai yntau vod y Weriniaeth wedi darparu i'r Gydgynghorva wneuthur DEDDFWRIAETH NEILLDUOL ar gyver sevyllva vel yr eiddom ni. Gan hyny, o gael deddvu ar ein cyver, hwylusdod rhesymol vyddai cael rhyw drevniant a'n gwnelai yn gnewyllyn Talaeth, a ymeangai o hono ei hun vel yr ymeangem ninau,—ac nid Bwrdd Lleol. Dylai vod genym ni vyrddau lleol yn Nhrerawson ac yn Gaiman, i ovalu am iechyd, a heddwch, ac adeiladaeth, a chladdveydd y manau hyny, ond dylai vod genym hevyd ryw un oruwchreolaeth gynrychiolai yr holl wlad. Buasai eve drwy'r