Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Patagonaidd gwynion—heb vedrusrwydd, ac heb uchelgais urddasol y meddwl a'r galon.

Hevyd, mae yn anhebgorol cael meddyg. Ac i'r amcan hwn, tra y govynwn i'r Llywodraeth ein cynysgaeddu âg un, dylem hevyd gynyg talu rhan o gyvlog y cyvryw un.

Dylem govio bob amser mai angenion gwladol penav pobl wareiddiedig ymhob oes ydynt—Ynadaeth ddilwgr a dysgedig, athraw da, a meddyg da.

Gweinyddiad mewn gwrthdarawiad â'r cyvreithiau Cenedlaethol nis gall barhau, na bod yn gryno; ac wrth y ddamwain leiav hi a glofa. Ni vydd grym yn ei ddyvarniad gan y rhai cyndyn pan ddelont dani. Yn gymaint ag nas gall ein Gwladva eiddil ni wasgu ei dedvrydau ar y Genedl, ac nad yw er lles y Wladva dan unrhyw amgylchiadau iddi ymwahanu oddiwrth y Weriniaeth (hyd yn oed pe goddevid y cyvryw ysgariad), byddai raid iddi oblegid ei heiddilwch, yn hwyr neu hwyrach, alw am nodded rhyw allu arall, ac mewn canlyniad vyned yn ddeiliadon y cyvryw allu. Yn ein hamgylchiadau ni, gan ein bod agos oll yn Brydeinwyr, y tebygrwydd vyddai i Loegr ein cysylltu wrthi ei hun ar y cyvle lleiav a roddem iddi.

Ond a gadael o'r neilldu y vath ddadl ddreiniog, govynwnA all y Wladva ymgynal heb gymorth Prydeiniaid haelionus, a rhoddion haelvrydig y Weriniaeth Arianin? . . . . . Yn ddiau, nis gall.

Gadewch i ni ddodi heibio bob tueddvryd cenedlaidd, a chovio mai delw un sydd arnom—mai brodyr ydym, wedi ein cylymu ynghyd yn rhwymyn cariad brawdol, ac nad oes ond rhinwedd a gwybodaeth yn gwahaniaethu rhwng dyn a dyn. Wrth ovyn yn wirvoddol ac uniongyrchol ar i'r Llywodraeth roddi i ni Weinyddiad Cenedlaethol, a'n cyvlenwi â'r modd i'w grymuso, byddwn yn gwneyd gwaith cymeradwy, a'r un pryd byddwn yn enill hawl gryvach i achles a serch y Llywodraeth. Gadewch i ni roddi tervyn ar yr ansicrwydd gweinyddol sydd wedi bod yn hongian hyd yn hyn uwch ein penau, a boed yn wawr cyvnod gweinyddol newydd arnom, deilliedig o'r Gyvraith Arianin.

Mewn trevniadau gwladol, edrychwn beth a all ddigwydd i ni gyda chyvreithiau Cymreig:—priodi, geni, marw, ysgariad, byw ar wahân, ewyllysiau, cytundebau, gwerthiadau, echwyna, ocraeth, gwarchodaeth, amddivaid, plant naturiol, ymrwymiadau, rhwymedigaeth rhieni, dyledswyddau plant, gwarcheidwaid cyvreithlon, ymddiriedolwyr, dyledswydd ieuenctyd, dyledswydd henaduriaid, rhaniad eiddo, masnach—a llawer agwedd arall y dichon i ni yn ddamweiniol, neu rywvodd arall, yn yr holl gvsylltiadau gwladol hyn, droseddu y cyvreithiau cenedlaethol mewn un pwynt, ac yna byddai pob travodaeth arall a wnaem, i raddau