Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwy neu lai, yn sigledig, a gallent achlysuro aml gynghaws hirvaith ger bron yr Ynadon Cenedlaethol. Onid ymddengys i chwi, gan hyny, dan y wedd neillduol hon, yn well i ni roddi ein hunain mewn cydfurviad â'r cyvreithiau Cenedlaethol ?

Ac i ddiweddu: mae amser yr Etholiad yn nesu, yn Hydrev, yn lle tugelu am awdurdod Cymreig, tugelwn (yn ol y drevn Genedlaethol) i sevydlu awdurdod Arianin: cyvlwyno canlyniad y tugelu i'r Llywodraeth Genedlaethol, a govyn iddynt ein corfori yn wir Wladva Genedlaethol Arianin—ac ve ddwg i ni ddaioni.

Yn y rhivyn dilynol, atebwyd syniadau y Prwyad gan L. J. vel y canlyn:—

Ynghylch y crug coeg "ymrwymiadau gwladol " (plant anghyvreithlon, &c.) a luchir vel llwch i lygaid y wlad, yr ydym vel Gwladvawyr Cymreig yn deall yn drwyadl vod Deddvlyvrau Cenedlaethol y Weriniaeth—yn wladol, droseddol, vasnachol, mwnol — yn rhwymedig arnom, vel pob rhan arall o'r Weriniaeth; ac os bydd ein deongliadau lleol ni ohonynt yn anvoddhaol i'r pleidiau, vod apêl (ymhob peth ag y caniateir apêl gan y gyvraith) oddiwrthynt i lysoedd uwch. A phe gwrthdroid rheithvarn y Wladva mewn llys uwch, nid yw ond yr hyn a ddigwydd bob dydd o amryval ranau y Weriniaeth; ac ni phrovai, ar un cyvriv, vod ein gweinyddiad ni yn avreolaidd. Ond nid y Brwyadaeth yw y llys uwch hwnw sydd i ddatgan a yw rheithvarnau y Wladva yn gywir ai peidio. Neges y Brwyadaeth yma, yn ol ysbryd a llythyren y penodiad, ddylai vod cynysgaeddu ein gweinyddwyr â'r cyvleusderau i iawn ddeall eu gwaith, ac nid bwrw pob anhawsderau ar eu fordd, a dywedyd pw, pw am eu holl ymdrechion. Mater o varn gyvreithiol vanwl yw pa mor bell y mae cydnabyddiadau y Llywodraeth o weithrediadau y Wladva yn cyrhaedd, heb vod y Gydgynghorva wedi gwneuthur datganiad furviol yn eu cylch; a gallai cyvreithwyr goreu y Weriniaeth wahaniaethu arno. Ond ni chredwn y mynai y Llywodraeth i'w Phrwyad hi gymeryd mantais o'r ansicrwydd hwnw i vwrw awgrymion, melus i rai gwrthnysig, na allwn ni godi trethi at ein gwasnanaeth lleol o wneuthur fyrdd, a phontydd, ac ysgolion, &c.



Rhagvyr 14, 1878, bu cwrdd gwleidyddol arall yn Gaiman, wedi yr etholasid D. LI. Jones yn ynad, ac yn hwnw gwnaeth ev sylwadau i'r perwyl a ganlyn:—

Hyd yn hyn y mae'r Llywodraeth wedi goddev i ni vyned ymlaen, ond nid oes genym scrip na scrap o awdurdodiad. Hwyrach vod y Cynghor y peth goreu ellid gael dan yr holl amgylchiadau, ond shift yw ar y goreu, a dyna yw arweddion