Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl amgylchiadau y Wladva. Ni vreuddwydiodd cychwynwyr y Wladva am anibyniaeth gwladol iddi—dim mwy na chael Talaeth Gymreig yn y Weriniaeth Arianin, a chanddi ei senedd leol ei hun; a cheir hyny, ond i'w phobl ddeall eu gwaith. Os na chorforir, dichon y penodir eto gomisiwn fyrdd at y comisiwn tir a'r comisiwn addysg. Os na cheir rheolaeth addysg y lle i ni ein hunain, gwell genyv weled arian y Llywodraeth yn myned gyda'r avon. Rhaid i ni gael addysg, ac yr wyv am i'r addysg hono vod yn Gymraeg; eithr yr wyv am i bob plentyn a addysgir yma allu ateb drosto ei hun yn Saesneg a Hispaenaeg, ac yna yn rhy vawr i boeri am ben Sion y Sais. Na ato Duw i ni anghofio ein hiaith, ond na ato Duw hevyd i ni aberthu gwybodaeth er mwyn iaith. Gwnaeth y diwygiadau crevyddol y Gymraeg yn iaith dduwinyddol, ac y mae'r newydduron yn ei gwneud yn iaith wleidyddol. Bid a vyno, y mae'r Llywodraeth yn awr yn edrych trevniadau y Wladva, a chan hyny y mae'r adeg wedi d'od i geisio cael seiliau politicaidd parhaol. Gwell i ni ddyweyd yn awr wrth y Llywodraeth beth a ddymunem gael, yn hytrach nag aros i weled beth wneir, a grwgnach wed'yn. Y mae deisebau lled ryvedd wedi myned oddiyma, ond weithiau y mae hyny yn angenrheidiol. Dylai y Wladva yn awr ovyn cael rheolaeth ein fyrdd, ein dyvrio, addysg, masnach, heddwch. Pe caem decree yn caniatau hyny i ni—corforaeth—byddai gan y llywodraethiad lleol reolaeth ar yr ynad, ac yna ni vyddai o nemaw pwys pwy ddaliai y swydd, gan y gellid edrych ar ei ol. Caniata y cyvansoddiad cenedlaethol i ni gymaint o awdurdod barnol ag sydd arnom eisieu y rhawg. Aif blyneddau heibio cyn y gallwn ni godi carcharau, ond dylem gael awdurdod i anvon estroniaid avlywodraethus o'r lle. Rhagrith yw ein rhaith vel y mae, a dylai vod yn debycach i chwarter sesiwn Prydain. Gall y Llywodraeth estyn cryn lawer ar y cyvansoddiad, vel ag i ganiatau hyn. Gyda hyny y mae arnom eisieu porthladd rhydd, un y gall llongau o Brydain lwytho a dadlwytho ynddo; porthladd didoll os gellir, ond porthladd tollawl beth bynag chaniatad i ddwyn i mewn yn adidoll beirianau yn arbed llavur. Dylai y pum' mlynedd nesav weled masnach seth rhyngom a'r Hen Wlad, a bydd yn gywilydd i'r Wladva os mai y masnachwyr presenol gaif y vasnach hono. Pwnc y priodi eto sydd yn galw am ddealltwriaeth, gan vod eiddo tirol yn codi, ac etiveddiaeth yn d'od yn bwysig. Nid wyv yn teimlo unrhyw anhawsder yn y mater hwn, ond cael y Rhestrydd Cyfredinol i gydnabod ein trevniant.



Ysgarmes wleidyddol hir—goviadwy oedd hono. Etholasid D. Lloyd Jones yn Ynad, a J. W. Jones (Tanygrisiau), yn Ysgrivenydd.